Newyddion S4C

Gatland yn ôl yn y Stadiwm i dderbyn gradd er anrhydedd

21/07/2022
Warren Gatland

Mae Warran Gatland wedi dychwelyd i'r Stadiwm Principality er mwyn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd. 

Bu'r stadiwm yn ail gartref i'r hyfforddwr o Seland Newydd yn ystod ei 12 mlynedd gyda thîm rygbi Cymru. 

Yn ystod ei amser wrth y llyw, roedd wedi arwain Cymru i fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad pedair gwaith, gan gynnwys tair Camp Lawn. 

I ffwrdd o'r stadiwm yng Nghaerdydd, fe lwyddodd Gatland i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd ddwywaith yn 2011 a 2019. 

Cafodd ei anrhydeddu wrth i Brifysgol Caerdydd gynnal tair seremoni graddio'r wythnos hon ar ôl saib o rai blynyddoedd yn sgil y pandemig. 

Nid Gatland yw'r unig enw cyfarwydd sydd wedi cael cydnabyddiaeth yr wythnos hon chwaith, wrth i'r gantores Cerys Matthews, pêl-droediwr Beth Fishlock a'r canwr Dafydd Iwan hefyd dderbyn graddau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.