Paul Bodin yn camu lawr fel hyfforddwr Cymru dan-21
21/07/2022
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod Paul Bodin wedi camu lawr fel hyfforddwr Cymru dan-21.
Cafodd Bodin, a chwaraeodd 23 gwaith i Gymru yn ystod ei yrfa, ei benodi i'r swydd ym mis Awst 2019.
Daw hyn ar ôl sawl blwyddyn lwyddiannus gyda'r tîm dan-19, gan arwain Cymru i gymhwyso am sawl pencampwriaeth UEFA.
Dechreuodd amser Bodin gyda'r tîm dan-21 gyda buddugoliaeth 1-0 hanesyddol yn erbyn Gwlad Belg yn y Cae Ras.
Ers hynny, mae wedi gweithio gyda nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi mynd ymlaen i serennu i dîm hŷn Cymru, fel Brennan Johnson, Neco Williams a Rhys Norrington-Davies.