Storm Claudia: £1.8m i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd

Storm Claudia

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.8 miliwn i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd yn dilyn Storm Claudia.

Ym mis Tachwedd daeth Storm Claudia â glaw trwm a gwyntoedd cryfion i Gymru, gan achosi difrod i rai amddiffynfeydd llifogydd y wlad.

Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru "ddigwyddiad difrifol" yn Nhrefynwy ar ôl i’r ardal gael ei tharo’n wael gan lifogydd.

Roedd lefel Afon Mynwy wedi codi i'w lefel uchaf erioed, yn uwch na'r hyn a gafodd ei gofnodi yno adeg storm Dennis yn 2020 a Storm Bert y llynedd.  

Dywedodd y llywodraeth y bydd y cyllid sydd wedi'i gyhoeddi ddydd Mawrth yn galluogi 11 o gynghorau i wneud gwaith atgyweirio brys.

Y bwriad, meddai, ydi sicrhau y gall amddiffynfeydd rhag llifogydd barhau i "amddiffyn cymunedau'n effeithiol".

'Effaith dinistriol'

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am newid hinsawdd, Huw Irranca-Davies, bod llifogydd yn cael "effaith dinistriol".

"Dyna pam rydym wedi buddsoddi mwy na £377 miliwn i leihau perygl llifogydd ledled Cymru dros oes y llywodraeth hon," meddai.

"Mae'r tywydd eithafol a welsom ym mis Tachwedd wedi achosi difrod sylweddol i seilwaith amddiffyn rhag llifogydd hanfodol ledled Cymru.

"Mae amddiffyn cymunedau yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i atgyweirio'r asedau hyn fel y gallant barhau i amddiffyn rhag digwyddiadau tywydd eithafol yn y dyfodol."

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn cost lawn y gwaith atgyweirio cymwys, sy'n adlewyrchu maint ac effaith y difrod a achoswyd gan Storm Claudia.

Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.