Newyddion S4C

Geraint Thomas yn cryfhau ei le ar y podiwm yn Le Tour

21/07/2022
Geraint Thomas

Mae Geraint Thomas wedi cryfhau ei le yn y trydydd safle yn y Tour de France ar ôl Cymal 18 ddydd Iau.

Fe orffennodd y Cymro yn bedwerydd unwaith eto, ac er iddo golli amser ychwanegol, mae e wedi profi mae ef yw’r gorau o weddill y ras y tu ôl i Jonas Vingegaard a Tadej Pogacar.

Vingegaard, o Ddenmarc, enillodd y cymal 143.5km o Lourdes i ben Hautacam ym mynyddoedd y Pyrenees ddydd Iau gan dynhau ei afael ar y crys melyn.

Roedd yn 1’04" o flaen Pogacar ar y cymal ac felly’n ymestyn ei flaenoriaeth dros y seiclwr o Slofenia i 3’26” yn gyffredinol.

Yn gynharach yn y cymal, fe ddangosodd Vingegaard ysbryd eithriadol o degwch drwy aros i Pogacar oedd wedi syrthio o’i feic.

Mae Thomas yn 3’05” o flaen David Gaudu o Ffrainc yn y pedwerydd safle.

Gyda chymal gwastad i’r gwibwyr ddydd Gwener, fe fydd angen ymdrech anhygoel ar Pogacar i oddiweddyd Vingegaard am y crys melyn yn y ras unigol yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn.

Y tebygolrwydd felly yw y bydd Vingegaard yn ennill y Tour de France pan ddaw i ben ar y Champs Élysées ym Mharis ddydd Sul gyda Pogacar, enillydd y llynedd yn ail a Thomas ar y podiwm yn drydydd.

Bydd hyn yn ganlyniad arbennig i’r Cymro 36 oed fydd yn ychwanegiad clodwiw dros ben i’w safle cyntaf yn 2018 ac ail yn 2019.

Bydd uchafbwyntiau Cymal 18 i'w gweld ar S4C nos Iau am 22:00.

Llun: Twitter/Ineos Grenadiers/Chris Auld

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.