Dim tystiolaeth fod Putin yn sâl, meddai cyfarwyddwr y CIA

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod Vladimir Putin, arlywydd Rwsia yn ansefydlog neu mewn iechyd gwael, meddai cyfarwyddwr y CIA.
Mae honiadau fod Putin yn dioddef o salwch, o bosib canser, wedi ymddangos yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf.
Does dim cadarnhad fod Putin sy’n 70 oed yn sâl o gwbl ac yn ôl William Burns, cyfarwyddwr y CIA, does dim tystiolaeth i awgrymu hyn gan nodi ei fod yn “rhy iach.”
Mae’r Kremlin wedi wfftio’r adroddiadau am afiechyd Mr Putin fel “dim byd ond celwydd”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.