Dyled genedlaethol Llywodraeth Prydain wedi tyfu £22.9b ym mis Mehefin

Mae dyled genedlaethol Llywodraeth Prydain wedi tyfu £22.9b ym mis Mehefin wrth i chwyddiant gynyddu taliadau llog.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dweud bod benthyg ym mis Mehefin eleni £4.1b yn fwy na llynedd.
Dywedodd y Canghellor, Nadim Zahawi: "Rydym yn cydnabod bod risgiau i arian cyhoeddus gan gynnwys o ganlyniad i chwyddiant, gyda chostau taliadau dyled ym mis Mehefin bron dwbl y record misol cynt."
Darllenwch fwy yma.