Dedfrydu dyn o’r Rhyl i 30 mlynedd yn y carchar ar ôl ymosod ar ei Nain gyda chyllell

Matthew Macmillan

Mae dyn 38 oed a geisiodd llofruddio dwy ddynes mewn ymosodiad gyda chyllell yn Y Rhyl wedi ei garcharu.

Ymddangosodd Matthew Macmillan, 38 oed, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, i wynebu dau gyhuddiad o geisio llofruddio.

Cafodd Macmillan ei arestio yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch mewn cyfeiriad yn y Rhyl y llynedd.

Pan gyrhaeddodd swyddogion y cyfeiriad, cafodd dwy ddynes eu darganfod wedi dioddef anafiadau difrifol, ar ôl i Macmillan ymosod arnyn nhw gyda chyllell.

Un o'r merched oedd nain yr ymosodwr, Carol Macmillan, 82 oed, ac roedd hefyd wedi ei bwrw ar ei phen.

Fe geisiodd hi ddianc at ei chymydog, Katherine Hughes-King, 47 oed, ond fe ddilynodd Macmillan ei nain, gan ymosod ar Ms Hughes-King hefyd.

Wrth siarad yn ystod yr achos llys, dywedodd Katherine Hughes-King ei bod hi yn cofio Macmillan yn dweud wrthi "i farw" wrth iddo ei thrywanu. 

Disgrifiodd effaith y diwrnod arni, gan ddweud ei bod eisoes yn “ofni'r diwrnod y caiff fy ymosodwr ei ryddhau” o'r carchar.

“Dwi wir ddim yn gwybod sut y byddaf yn ymdopi”.

Yn ystod gwrandawiad ar 12 Tachwedd, pleidiodd Macmillan yn euog i’r ddau gyhuddiad o geisio llofruddio, ar ôl gwadu'r cyhuddiadau yn flaenorol. 

Cafodd ddedfryd estynedig o 30 mlynedd, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.  

Dywedodd barnwr yr achos fod Macmillan yn dangos “risg sylweddol o gyflawni troseddau difrifol a treisgar pellach.”

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Simon Kneale: “Dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwyr wrth weithio efo swyddogion er mwyn rhoi adroddiad trylwyr a manwl o’r hyn ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

“’Da ni’n falch o ymateb cyflym ein swyddogion wnaeth ymyrryd a stopio’r ymosodiad, ac arestio’r unigolyn o dan amheuaeth. Drwy wneud hyn, mae’n debygol eu bod wedi achub bywydau’r dioddefwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.