‘Chwarae hefo bywydau pobol’: Beirniadu penaethiaid cwmni egni gwyrdd sydd wedi mynd i’r wal

‘Chwarae hefo bywydau pobol’: Beirniadu penaethiaid cwmni egni gwyrdd sydd wedi mynd i’r wal

Mae un o gwsmeriaid cwmni gwresogi 'gwyrdd' o Abertawe, Consumer Energy Solutions (CES), yn dweud bod penaethiaid y cwmni wedi “chwarae hefo bywydau pobol” ar ôl i'r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Daeth cyhoeddiad ddydd Gwener bod y cwmni, sy’n gosod systemau gwresogi mewn cartrefi fel rhan o gynllun ECO4 Llywodraeth y DU, wedi rhoi’r gorau i fasnachu ar unwaith.

Mae’r mwyafrif o’r 295 o bobl oedd yn gweithio i’r cwmni ar draws Cymru — gyda chanolfannau yn Abertawe, Treorci a Bangor — wedi colli eu swyddi.

Mae’r cwmni gweinyddol sy’n gyfrifol am asedau CES, KR8 Advisory, yn dweud eu bod yn gweithio i “gefnogi cyn-weithwyr i chwilio am gyflogaeth newydd ac i hawlio eu hawliau diswyddo.”

Roedd CES yn is-gwmni i grŵp City Energy, sydd yn parhau i fasnachu fel arfer, yn ôl y gweinyddwyr.

Image
Fan CES

Mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts, yn galw am ymchwiliad llawn i’r cwmni, yn dilyn "nifer pryderus" o achosion o waith is-safonol yn ei hetholaeth.

Fis Mai 2024, fe wnaeth gwefan Newyddion S4C adrodd fod cwynion wedi’u gwneud am safon gwaith CES ar gartrefi pobl.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw, dywedodd 11 o gwsmeriaid CES ar draws Cymru a Lloegr eu bod yn anfodlon ar y gwaith a wnaed, gyda rhai yn dweud ei fod yn “effeithio ar eu hiechyd”.

‘Ddim yn teimlo tha’ cartref’

Yn dilyn y newyddion am y cwmni’n mynd i’r wal, mae Newyddion S4C wedi siarad gyda rhai cwsmeriaid am y gwaith a wnaed ar eu cartrefi.

Mae Llelo Gruffudd, sy’n byw ym Mhwllheli, yn honni bod llygod mawr bellach yn magu o fewn waliau a tho ei gartref o ganlyniad i waith CES.

Mae’n dweud bod tyllau “di-angen” wedi’u gadael yn y waliau ac yn y to, gan ddenu llygod i’r tŷ, a bod dŵr hefyd wedi dechrau gollwng drwy nenfwd yr ystafell fyw.

Dywedodd y cwmni wrtho ar y pryd nad eu gwaith nhw oedd yn gyfrifol am ddenu llygod i’r cartref.

Image
Llelo Gruffudd
Llelo Gruffudd

Dywedodd Mr Gruffudd wrth Newyddion S4C fod gweithiwr wedi gadael twll yn y wal heb ei selio ar ôl sylwi nad oedd cyflenwad trydan digon agos i orffen y gwaith.

“Natho nw adal y twll heb ei sealio, dros benwythnos. A dan ni’n byw mewn lon breifat, tŷ ar ben ei hun rhwng craig, felly ma gen ti fywyd gwyllt a llygod – mae’n mynd efo’i gilydd.

“Felly ers tair blynedd, mae ganddon ni lygod i fewn yn waliau’r ty ag yn yr atic. Naethon nhw ddim roid ei dwylo i fyny a deud mai bai nhw odd hynny.

“Ma rywun yn dueddol o anghofio amdano fo, ond yn y ddau fis dwytha, ti’n clywad nhw’n magu. Mae nhw’n magu yn waliau’r tŷ ag yn yr atic.

“Pan dwi’n trio cysgu rwan, dwi’n clywad y llygod yn y nos – maen nhw’n crafu, a bwyta a malu. Maen nhw’n dod yn fyw yn y nos.”

Mae Mr Gruffudd yn byw yn y tŷ gyda’i frawd ar ôl iddyn nhw ei hetifeddu gan eu rhieni. 

Mae’n dweud iddo dderbyn £600 o iawndal gan y cwmni ar ôl i’r to ollwng, ar ôl trafodaethau hir, ond bod problemau’n parhau.

“Dwi di gweld dros y Dolig hefyd bod to’r stafell fyw yn gollwng eto mewn patchyn yna. 

Image
Tyllau
Cafodd tyllau ei rhoi yn waliau cartref Mr Gruffudd, ond cafwyd eu gadael am gyfnod heb eu llenwi
Image
To Ty
Mae dŵr dal i ollwng drwy nenfwd y tŷ, bron i dair blynedd ar ôl cychwyn y gwaith, yn ôl Mr Gruffudd

"Dwi’n clywad o’n dripian ar y carped. Felly ma nhw di gadael llanast yma, efo’r peipiau a marciau ar waliau a’r to.

“Maen nhw’n chwarae efo bywydau pobol. Mae o di effeithio ar iechyd fi. 

"Ma nhw ‘di chwalu cartref sydd di cael ei roi i ni, a ti teimlo bach yn flin dros mam a dad, bod nhw di dod yma a chwalu eu tŷ nhw. Dim bai ni ydi o, ond mi fysan nhw’n troi yn eu bedd. 

Fe ychwanegodd fod arweinwyr y cwmni wedi elwa’n ariannol tra bod gweithwyr wedi colli eu swyddi.

“Mae gen ti 300 o bobl sydd di colli gwaith hefyd, maen nhw [penaethiaid y cwmni] di cael yr holl miliynau ‘na , di chwlau tai pobol."

Galw am ymchwiliad

Wrth alw am ymchwiliad llawn, dywedodd Liz Saville-Roberts ei bod yn pryderu’n fawr am gwsmeriaid a chanddyn nhw waith heb ei gwblhau.

“Dros y misoedd diwethaf, mae nifer bryderus o etholwyr wedi dod ymlaen gyda phryderon difrifol ynghylch ansawdd gwael y gwaith a wneir gan gontractwyr sy’n gweithredu ar ran CES.

“Mae rhai wedi adrodd am osodiadau heb eu cwblhau, systemau’n methu yn fuan ar ôl eu gosod, a chwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd cael problemau wedi’u datrys.

"Mewn rhai achosion, mae pobl agored i niwed wedi’u gadael heb wres na dŵr poeth.”

Image
LSR

Dywedodd hefyd fod adroddiadau am elw’r cwmni yn codi cwestiynau difrifol.

“Yr hyn sy’n gwneud y newyddion hwn hyd yn oed yn fwy brawychus yw adroddiadau bod y cwmni wedi cofnodi elw cyn treth o £35.3 miliwn ar drosiant o £81.1 miliwn yn 2024, hyd yn oed wrth i lawer o gwsmeriaid gael trafferth gyda gwaith gwael a namau heb eu datrys. 

“Os yw'r ffigyrau hyn yn gywir, maent yn codi cwestiynau difrifol ynghylch blaenoriaethau, llywodraethu moesegol a goruchwyliaeth o fewn y sefydliad.

“Rhaid cynnal ymchwiliad llawn a thryloyw i arferion y cwmni, ansawdd gwaith contractwyr, a'r ffordd y mae cwynion cwsmeriaid yn cael eu trin. 

"Rwy'n galw ar Trustmark ac Ofgem i esbonio i ddeiliaid tai sut y bydd eu hawliau'n cael eu diogelu ar frys.”

‘Heriau ariannol’

Mewn datganiad, dywedodd y gweinyddwyr, KR8 Advisory, fod CES wedi rhoi’r gorau i fasnachu ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â bwrw ymlaen â chynllun ECO5.

“O ganlyniad, nid oedd y busnes yn hyfyw yn ariannol mwyach a pheidiodd â masnachu,” meddai’r datganiad.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr KR8 Advisory, Jimmy Saunders, fod y penderfyniad i beidio ag ymestyn ECO4 y tu hwnt i Fawrth 2026 wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i gefnogi cyn-weithwyr i chwilio am gyflogaeth newydd ac i hawlio eu hawliau diswyddo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.