Geraint Thomas yn colli amser ond yn cryfhau ei afael ar y trydydd safle yn Le Tour
Mae Geraint Thomas wedi cryfhau ei afael ar y trydydd safle yn y Tour de France er iddo golli amser ar y ceffylau blaen ar gymal 17 dydd Mercher.
Fe ddaeth Thomas yn bedwerydd ar y cymal 130km o Saint-Gaudens i ben mynydd Peyragudes yn y Pyrenees. Roedd yn 2'07" tu ôl yr enillydd Tadej Pogacer gyda Jonas Vingegaard yn y crys melyn yn ail.
Mae Thomas bellach yn 4'56" tu ôl i Vingegaard a 2'38" tu ôl i Pogacar sydd yn ail yn y ras yn gyffredinol.
Ond er iddo golli amser ar y cymal, roedd perfformiad Thomas yn gryf, gan ddangos ei brofiad i sefydlu ei le yn drydydd, 2'57" o flaen Nairo Quintana.
Mae un cymal yn y mynyddoedd ar ôl dydd Iau, sef 143.5km o Lourdes i Hautacam.
Cymal gwastad sydd dydd Gwener cyn cymal unigol yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn.
Fe fydd Thomas yn hyderus i wneud yn dda ar y cymal yma a bydd sicrhau safle ar y podiwm yn ganlyniad arbennig iawn i'r Cymro 36 oed pan fydd y ras yn dod i ben ar y Champs Élysées ym Mharis ddydd Sul.
Fe enillodd Thomas y Tour de France yn 2018 ac roedd yn ail yn 2019, felly byddai cyfle i ychwanegu trydydd at ei palmarès yn gamp aruthrol iddo.
Dywedodd Geraint ar ddiwedd y cymal: "O’n i ddim ishe mynd i mewn i’r coch. Felly'r penderfyniad oedd aros nôl er mwyn peidio â chwythu yn gyfan gwbl. Ond diwrnod digon boddhaol."
Bydd uchafbwyntiau o'r Tour de France i'w gweld ar S4C nos Fercher am 22.30.
Llun: Twitter/Geraint Thomas