Dau ar ôl yn y ras i Rif 10
Dau ar ôl yn y ras i Rif 10
Rishi Sunak a Liz Truss yw'r ddau ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras i fod yn arweinydd newydd y blaid Geidwadol ac yn Brif Weinidog Prydain.
Cafodd canlyniad y rownd ddiweddara ei gyhoeddi brynhawn Mercher.
Yr aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad rŵan fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y swydd honno ac fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar y 5ed o Fedi.
Mae disgwyl i'r aelodau dderbyn eu papurau pleidleisio fis nesaf.
Y tro yma, roedd yn rhaid i'r ymgeiswyr dderbyn cefnogaeth gan 20 o Aelodau Seneddol Ceidwadol, trothwy oedd yn uwch na'r blynyddoedd o'r blaen. Wyth ymgeisydd oedd wedi llwyddo i ennill digon o gefnogaeth.
Ers hynny, y person sydd wedi bod yn cael y lleiaf o bleidleisiau bob tro sydd wedi gorfod gadael y ras, ac erbyn hyn dau sydd ar ôl.
Yn y rownd olaf o bleidleisio ddydd Mercher, daeth Mr Sunak yn gyntaf gyda 137 o bleidleisiau tra roedd Ms Truss yn ail ar ôl ennill cefnogaeth 113 o ASau.
Daeth Penny Mordaunt yn agos iawn i gyrraedd y ddau olaf gan ennill 105 o bleidleisiau.
Bydd aelodau Ceidwadol yn cwrdd â Mr Sunak a Ms Truss mewn cyfres o gyfarfodydd o gwmpas y wlad a bydd cyfle iddynt eu holi am eu polisïau.
Mae disgwyl i'r ddau gymryd rhan mewn dadl deledu ar y BBC nos Lun.