Dwy wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili
20/07/2022
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddwy fenyw farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili ddydd Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Citröen C3 glas a Ford Ranger gwyn ger y chwarel lechi ar Heol Fochriw ychydig wedi 10:00.
Roedd un o'r menywod yn 79 oed, a'r llall yn 30 oed, ac yn y car Citröen.
Cafodd bachgen tair oed a dyn 22 oed hefyd eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. Mae'r ddau bellach mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu ar unwaith.