'Nid nawr yw'r amser iawn' i gyflwyno treth twristiaeth yng Nghymru
'Nid nawr yw'r amser iawn' i gyflwyno treth twristiaeth yng Nghymru
'Nid nawr yw'r amser iawn' i gyflwyno treth twristiaeth yng Nghymru, yn ôl cyfarwyddwr Cymdeithas y Tirfeddianwyr (CLA) yng Nghymru.
Mae CLA yn fudiad sy'n darparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer y gymuned wledig yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn yr hydref ynghylch cyflwyno treth twristiaeth yn y wlad.
Byddai hyn yn golygu fod yn rhaid i ymwelwyr dalu yn ychwanegol pan yn aros dros nos yng Nghymru.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd cyfarwyddwr CLA Cymru, Nigel Hollett, y byddai cyflwyno'r dreth wrth geisio delio ag oblygiadau ariannol y pandemig yn niweidiol iawn i'r wlad.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod ofnadwy o heriol. Mae costau ynni yn ofnadwy o uchel ac mae llawer o bobl yn ystyried os dylen nhw fynd ar wyliau os na fedrwn nhw ei fforddio felly mae'n teimlo mai nid ar hyn o bryd y dylid cyflwyno'r dreth."
Ychwanegodd Mr Hollett bod cyfathrebu rhwng y llywodraeth a'r diwydiant yn hollbwysig yn ogystal â "gwrando ar beth yr ydym ni'n ei ddweud a'r adborth rydym ni wedi ei dderbyn gan ein holl aelodau ydi mai nid nawr yw'r amser iawn i gyflwyno'r dreth."
Cymru yn mynd yn llai "cyfeillgar"
Byddai cyflwyno'r dreth yn golygu y byddai twristiaid yn ymweld â llefydd eraill yn y DU yn hytrach na manteisio ar beth sydd gan Gymru i'w gynnig, yn ôl Mr Hollett.
"Mae Cymru yn rhan o'r DU. Mae yna lawer o lefydd hyfryd eraill yn y DU, a'r adborth 'da ni'n ei gael ydy nad ydy Cymru mor gyfeillgar â hynny bellach felly 'da ni'n mynd i fynd i rywle arall a dydyn nhw ddim yn mynd i ddod i wario eu harian yng Nghymru."
Mae Angharad Owen yn berchennog busnes yn y diwydiant, ac mae hi hefyd yn bryderus am y dreth. Mae hi'n credu mai gwrando ar y diwydiant sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud.
"Dwi'n gobeithio mae'r llywodraeth yn rili gwrando ar businesses a neud lot o fodelau at sut fydd hwn yn effeithio ar yr economi. 'Da ni'm isio rwbath negyddol yn effeithio'r economi.
"Yng Nghonwy, mae 20% o'r jobs i gyd hefo twristiaeth. Mae'n rili effeithio'r economi a da ni'm isio hwnna mynd yn waeth."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu i sicrhau bod ganddynt ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy yma yng Nghymru.
"Rydym yn ymgynghori ar roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr. Byddai hwn yn dâl bach a delir gan bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan ein gwlad brydferth i'w gynnig.
"Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru y pŵer i benderfynu a ydynt am gyflwyno ardoll ymwelwyr."