Newyddion S4C

Oes angen newid rheolau rygbi i amddiffyn plant?

21/07/2022

Oes angen newid rheolau rygbi i amddiffyn plant?

Yn sgil y newyddion o ddiagnosis dementia cyn-gapten rygbi Cymru Ryan Jones, mae’r drafodaeth am ddiogelwch plant yn y gêm wedi codi unwaith eto.

Cafodd Jones ddiagnosis o ddementia ym mis Rhagfyr 2021 yn 41 oed.

Yn sgil y newyddion, mae rhieni yn poeni am yr effaith gall chwarae rygbi gael ar yr ymennydd eu plant.

Mae Awen Iorwerth yn ddarlithydd mewn Meddygaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei mab naw oed hefyd yn chwaraewr rygbi brwd. 

Mae Awen yn credu bod rhaid i'r gêm ar lawr gwlad wneud mwy i amddiffyn plant rhag niwed hir dymor sydd yn gallu dod o chwarae rygbi. 

"Mae clybiau a hyfforddwyr angen arweiniad, neud yn siŵr bod pawb yn dilyn y rheolau," meddai.

"Dwi meddwl efallai bod y criw elit wedi cael eu gwarchod fwy na'r rhai sydd yn chwarae'n gystadleuol mewn cymunedau lleol sy' di arfer jyst anfon rhywun nôl 'mlaen."

"Mae isho bod yn rili strict a meddwl am y rheolau, a bod eisiau wir meddwl am ganllawiau gwahanol i blant." 

Mae Awen am weld newidiadau i'r drefn bresennol yn y gêm gymunedol, gan gynnwys lleihau'r nifer o eilyddion mae timau yn medru ei gael. 

Yn ogystal, mae'n annog Cymru i ddilyn trywydd Seland Newydd lle mae timau ysgol uwchradd yn cael eu gwahanu ar sail pwysau yn lle oedran. 

Mae bob dim am ddiogelwch'

Er gwaethaf y galwadau am newid, mae un hyfforddwr rygbi yn dweud bod y canllawiau i amddiffyn plant eisoes mewn lle yn y gêm gymunedol. 

Mae Gareth Williams yn hyfforddwr ar dîm dan 10 Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, ac yn dweud er bod y risg dal yn bodoli mae mesurau yn lle i'w lleihau. 

"Ma' bob dim am ddiogelwch, ma’ fe'n rhywbeth rili pwysig. Dydyn nhw ddim yn cael taclo yn uwch na'r canol, ac mae hynny'n lleihau'r risg o bennau'n bwrw pennau.

"Dyw e ddim yn sicrhau bod pob risg (yn cael eu hatal),  achos gall rhywun cael pen-glin yn y pen. Fi ddim yn gwybod os chi'n gallu lleihau pob risg ond ni'n trial cadw contact i'r lleia' posib.

"Ti'n trial lleihau'r risg trwy'r amser, chi methu cael gwared ar bob risg ond dwi meddwl ni'n gwneud popeth ni'n gallu ar y foment." 

Dywedodd llefarydd o Undeb Rygbi Cymru: "Lles chwaraewyr yw prif ffocws popeth ni'n neud yn y WRU ac rydym yn cydweithio gyda World Rugby i sicrhau ei diogelwch." 

"Rydym yn edmygu Ryan Jones am siarad am bwnc mor bwysig ac yn dymuno'r gorau iddo a'i deulu." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.