Newyddion S4C

Merched mewn amaeth: ‘Mae lle i bawb yn y diwydiant’

Merched mewn amaeth: ‘Mae lle i bawb yn y diwydiant’

“Dyw’r wraig ffarm ddim ond yn y gegin, mae hi’n gallu bod allan ar y fferm, ac yn gallu rhedeg y fferm,” meddai Angharad Thomas o Sir Gar.

Yn draddodiadol, mae ffermio yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, ond mae miloedd o fenywod yn gweithio mewn amaethyddiaeth.

Un ohonyn nhw yw Angharad Thomas, 25 oed sydd wedi bod yn ffermio gwartheg a defaid ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod cadw moch gan ddechrau busnes gwerthu cig moch.

Yn ôl Angharad mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru a thu hwnt wedi gwneud “camau mawr ymlaen” dros gydraddoldeb i ferched, ond mae “dal lle i wella ac i addysgu eraill.”

"Angen addysgu'r cyhoedd "

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C yn ystod un o wythnosau pwysicaf y diwydiant amaethyddol yng Nghymru, dywedodd Angharad fod presenoldeb merched yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn “brawf o le menywod mewn amaeth.”

Er bod Angharad yn credu bod merched yn cael eu derbyn yn y byd amaethyddol erbyn hyn, mae hi’n teimlo bod angen addysgu'r cyhoedd.

“Dwi’n meddwl bod rhai pobl sydd ar y tu allan dal i gredu mai hen ddyn gyda chap fflat yw’r ffermwyr ac mae hynny yn dangos bod lle i addysgu’r cyhoedd.

“Dyw’r wraig ffarm ddim ond yn y gegin, mae hi’n gallu bod allan ar y fferm, yn rhedeg y fferm. Mae angen dysgu hynny, mae angen i bawb yn y byd amaeth bwsio’r neges yna i ddangos bod cydraddoldeb yn y diwydiant amaethyddol.”

Dros y blynyddoedd mae Angharad ei hun wedi wynebu sylwadau sy’n tanseilio rôl menywod mewn amaethyddiaeth.

"Dwi wedi derbyn ambell sylw gan y genhedlaeth hŷn, dynion hŷn yn dweud ‘paid gwneud hwnna, ti’n ferch alli di ddim codi hwnna’.

“Ond mae menywod yn gallu gwneud gwmws yr un fath a dynion.”

Fe benderfynodd Angharad fynd i’r brifysgol i wneud cwrs amaethyddol ar ôl gadael yr ysgol. Roedd yn benderfyniad hawdd iawn iddi, ond roedd eraill yn gweld hi’n anodd i dderbyn hynny.

“Dwi’n cofio sgwennu application form i fynd i’r brifysgol, nath yr ysgol ddweud wrthai dylsa fi dewis pwnc mwy academaidd ac nid amaethyddol. Mae hynny ond yn dangos y diffyg gwybodaeth sydd gan rhai pobl.

“Ma’r ffaith fy mod wedi astudio gradd amaeth ddim yn meddwl taw mynd nôl gytre’ i weithio ar y fferm byddai.”

'Lle i bawb'

Ynghyd â’i busnes cig moch, mae Angharad yn gweithio fel cydlynydd marchnata i Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae Angharad am i bobl ddeall “bod lle i bawb” mewn amaeth ac yn ystod y Sioe Fawr, bydd hi’n mynychu sesiynau sy’n trafod merched mewn amaeth.

Bydd un o’r sesiynau yna yn trafod y menopos ac yn cael ei gadeirio gan Carwen Davies, Pennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedidd Carwen: " 'Da ni wir isio galw mwy o bobl draw i'r stondin, demograffeg wahanol i be 'da ni fel arfer yn ei gael, sef yn lle delwedd yr Undeb o'r hen ffarmwr, bod ni hefyd yn ymgysylltu efo eu gwragedd nhw a phobl ifanc hefyd, a bod y rheiny'n teimlo wedyn bod 'na le yn yr undeb iddyn nhw i gael rhywle gallan nhw ddod i siarad.

"Mi fydd y sesiwn dydd Iau yn mynd o flaen webinar ym mis Awst, ac felly mi fydd 'na bynciau wedyn i'w trafod ac mi fydd 'na waith wedyn yn cael ei wneud ar ôl hynny yn hytrach na bod ni jyst yn siarad er mwyn siarad.

"Mi fyddwn ni'n dod at ein gilydd eto ac yn rhoi ryw fath o becyn i roi cymorth fel bod nhw'n gwybod lle i fynd ag at bwy i droi os oes angen rhagor o wybodaeth arnyn nhw. 

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn bo ni'n creu'r ymwybyddiaeth a bod ni'n rhoi y wybodaeth allan bod yr undeb yn gefnogol i fenywod sy'n mynd trwy'r menopos a hefyd i'r teulu mwy eang."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.