Dyn o Brestatyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei fam
Mae dyn ifanc o Sir Ddinbych wedi ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o lofruddio ei fam.
Fe wnaeth Tristan Thomas Roberts o Coniston Drive, Prestatyn, ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug fore dydd Mercher.
Mae wedi'i gyhuddo o ladd ei fam Angela Shellis, 45 oed, a gafodd ei darganfod yn farw ym Mhrestatyn ddydd Gwener diwethaf.
Clywodd y Barnwr Rhys Rowlands y byddai adroddiad seiciatrig yn cael ei baratoi i fesur pa mor addas oedd Mr Roberts i gynnig ple.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan 17 Rhagfyr.