Golygfeydd trist iawn heno wrth i Rownd a Rownd ffarwelio efo Kelvin Walsh
Golygfeydd trist iawn heno wrth i Rownd a Rownd ffarwelio efo Kelvin Walsh
RHYBUDD: Mae’r erthygl hon yn cynnwys ‘spoilers’ am y gyfres Rownd a Rownd
Mae un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi gadael y sgrin ar ôl cyfnod o 28 mlynedd.
Nos Fawrth, bu farw’r adeiladwr hoffus Kelvin Walsh yng nghyfres sebon Rownd a Rownd. I’r actor, Kevin Williams, 38 oed, o Lanllyfni, Gwynedd, mae’n ddiwedd cyfnod.
Fe wnaeth ymddangos am y tro cyntaf 28 mlynedd yn ôl fel bachgen 10 oed, ac mae wedi bod yn bresenoldeb cyson i selogion y gyfres dros y tri degawd ers hynny.
Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, dywedodd Kevin: “Dydi o ddim di hitio fi’n iawn eto, dwi’m yn meddwl.
“Dwi’n gwybod ers ddim yn bell o flwyddyn. Mae o ‘chydig bach o’r ddwy ochor lle o’n i wedi bod yn sôn wrthyn nhw bo fi’n meddwl gadael llu, a hefyd odda nhw’n dod i fyny hefo stori, achos bod hi’n bennod penbwlydd 30 mlynadd [i Rownd a Rownd].
“So naethon ni siarad efo’n gilydd am y peth a naethon ni ddod i gytundeb a dwi’n meddwl fod o’n ffor’ dda o fynd allan llu.”
'Dagrau'
Yn y gyfres ddiweddaraf, mae Kelvin yn cael ei roi mewn coma yn yr ysbyty, ar ôl disgyn wedi i fan daro’r ysgol ddringo yr oedd yn sefyll arni.
Yn ei olygfa olaf, fe fydd teulu Kelvin, gan gynnwys ei bartner Mel (wedi’i phortreadu gan Elain Lloyd) a’i fam Kay (wedi’i phortreadu gan Buddug Povey) yn ei gwmni, wrth i’r meddygon ddiffodd y system cynnal bywyd. Ar gyfer y bennod arbennig yma nos Fawrth, roedd rhai o hen wynebau'r gyfres wedi dychwelyd ar gyfer golygfeydd olaf Kelvin.
Roedd dwy chwaer Kelvin, sef Klaire a Kylie oedd yn cael eu chwarae gan Ffion Llwyd a Leusa Gwenllïan, wedi "dod yn ôl" er mwyn ffarwelio a'u brawd mawr. Yn ogystal â'r ddwy chwaer, sydd wedi dychwelyd ar ôl blynyddoedd oddi ar y sgrin, roedd un o ffrindiau hynaf Kelvin, erbyn hyn Y Parchedicaf Osian Powell, sy'n cael ei bortreadu gan Iddon Alaw, a sydd, yn amlwg o'i ymddangosiad nos Fawrth, wedi dilyn oel troed ei dad, Y Parchedig Alun Powell, i'r weinidogaeth.
“Y ffor’ mae Kelvin ‘di mynd, dwi’n meddwl bod o’n stori dda i ddeud y gwir. Mae o’n ffordd drist o fynd, maen nhw di sgwennu hi’n rili, rili da.
“Dwi’n cofio pryd oeddan ni’n ffilmio yn yr ysbyty, pan o’n i mewn coma ag oedd y teulu yn dod mewn fesul un i ddeud eu geiriau ola wrth Kelvin.
“Dwi’n cofio just gorfadd yn y gwely, pan oedd Elain a Buddug yn siarad efo Kelvin, a dwi’n cofio’r criw yn deud ‘stop’.
“Dyma fi’n gofyn, ‘pam, be sy’?’ ag odd genna fi just dagrau yn dod i lawr ochor yng ngwynab a’r camera reit wrth ochor fi. Odd o’n rili trist achos bo fi’n gwbod na heina oedd un o’r golygfeydd dwytha oni’n mynd i neud ar Rownd a Rownd, ar ôl bod yna am gymaint o flynyddoedd.”
Fel tad i ddau o blant, yn gweithio’n llawn amser ac yn hyfforddwr ar dîm pêl-droed Dyffryn Nantlle Dan 11, mae Kelvin yn dweud bod ganddo ddigon i’w gadw’n brysur ar ôl i’w gyfnod gyda’r opera sebon ddod i ben.
Ond mae’n gobeithio nad yw ei ddyddiau ar y sgrin ar ben eto, meddai.
“Gawn ni weld be fydd nesa i Kevin,” meddai.
“Dwi’n gweithio fel plymar felly dwi am fynd nôl i gwaith go iawn. Ond os fysa 'na rwbath arall yn dod i fyny, fath â ryw ddarn bach actio yn rwbath, mi fyswn i’n cymryd hynna ymlaen.”
Me Kevin yn disgrifio Kelvin fel cymeriad “mae pawb yn y pentra' yn ei licio”.
Ac ar ôl bod yn rhan o sawl stori amrywiol dros y 28 mlynedd diwethaf - gan gynnwys un cyfnod yn y carchar - mae un atgof yn sefyll allan i’r cefnogwr pêl-droed brwd o Ddyffryn Nantlle.
“Fy hoff atgof i ydi pryd gath Kelvin fynd i briodi yn Goodison Park, yn cae Everton.
“Gaethon ni fynd i’r cae a priodi a mynd i mewn i’r changing rooms, ond be oedd yn waeth ydi, mae Kelvin yn syportio Everton - ond mae Kevin yn syportio Lerpwl! Ond mi oedd o’n dipyn o brofiad chwarae teg.”
'Ffrindiau mawr'
Tan yn ddiweddar, mae Kelvin yn cyfaddef nad oedd wedi gwylio Rownd a Rownd ers peth amser - ond mae hynny’n debygol o newid rŵan, meddai.
“Tan y ddamwain, ma siŵr bod 'na 15 mlynedd ers i fi watchad Rownd a Rownd, achos do’n i’m yn licio gwatchad fy hun ar y teledu.
“Ond achos bod o’n brogram mor dda, a bo fi ddim arno fi ddim mwy, ella nai ddechra watchad o rŵan ma siŵr.”
Fe ychwanegodd: “Be dwi’n mynd i fethu fwya ydi’r togetherness a faint o agos oedd y criw a’r cast yn y safle gwaith.
“Oedd pawb yn cal ymlaen yn brilliant yna, yn ista' rownd bwr’ yn cael hwyl a jôcs, mynd allan weithia bob diwadd bloc, a pa mor agos a faint o ffrindia' odd pawb.
“Dwi’n mynd i fethu huna. Ond m’ond lawr lôn ydi Borth a dwi’n pasio digon amal so fyddai’n mynd i mewn i ddeud helo yn aml swn i’n feddwl.”
