Gŵyl Cefni ym Môn i gymryd saib tan 2027

Gwyl Cefni

Mae trefnwyr Gŵyl Cefni ym Môn wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn cymryd saib am flwyddyn.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd pwyllgor Gŵyl Cefni fod y trefnwyr wedi dod i benderfyniad "anodd ond angenrheidiol" i beidio â chynnal Gŵyl Cefni yn 2026.  

Dywedodd y datganiad fod yr ŵyl "wedi tyfu y tu hwnt i’n disgwyliadau o ran maint a phoblogrwydd ac wedi tyfu yn aruthrol ac yn hynod gyflym dros y blynyddoedd diweddaraf. 

"Er bod y twf yn destun balchder ac yn hwb aruthrol i’r dref yn ystod wythnos yr ŵyl, mae hefyd yn rhoi pwysau a chyfrifoldebau sylweddol uwch ar ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig."

O ganlyniad i hyn pleidleisiodd y pwyllgor trefnu i gymryd blwyddyn i ddatblygu yn 2026.  

Yn ystod y flwyddyn nesaf, y bwriad medd y trefnwyr fydd:

  • Chwilio am fwy o aelodau’r pwyllgor a gwirfoddolwyr
  • Chwilio am ffyrdd ychwanegol i gyllido’r ŵyl  
  • Trefnu gweithgareddau codi arian 

Dywedodd Elen Hughes Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn, sydd yn gyfrifol am gydlynnu'r ŵyl:  “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Gŵyl Cefni dros y blynyddoedd gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, noddwyr, busnesau lleol, perfformwyr, stondinwyr, ymwelwyr, ac yn bwysicaf oll, yr holl bobl sydd wedi bod yn dod draw i fwynhau a dathlu diwylliant Cymreig a miwsig Cymraeg.

“Rydym mor falch o lwyddiant yr ŵyl. Dros y blynyddoedd, mae wedi tyfu gan ddenu miloedd o fynychwyr dros ddathliad deuddydd o gerddoriaeth Cymraeg yn nhref Llangefni. 

“Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn 2027 gydag egni newydd, gan sicrhau bod Gŵyl Cefni yn parhau i ddathlu diwylliant bywiog ein cymuned am flynyddoedd i ddod." 

Bydd Ynys Môn yn croesawu Eisteddfod yr Urdd yno yn 2026, ac mae'r trefnwyr yn deall bod eu gwirfoddolwyr a chymunedau "yn rhoi llawer o egni a’u hamser at hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.