Croesawu Ruby Evans gartref ar ôl creu hanes ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd

Croesawu Ruby Evans gartref ar ôl creu hanes ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd

Fe gafodd Ruby Evans groeso cynnes wrth ddychwelyd adref i Gymru ddydd Mercher ar ôl ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd.

Y ferch 18 oed o Gaerdydd yw'r Gymraes gyntaf i ennill medal mewn cystadleuaeth unigol yn y bencampwriaeth.

Wrth ddychwelyd i'w sesiwn ymarfer gyntaf yng Nghaerdydd fore Mercher roedd sawl person yno i'w chroesawu, gan gynnwys ei chyd-gymnastwyr.

"Diolch i bawb am y gefnogaeth," meddai Ruby wrth Newyddion S4C.

"Roedd e’n rili sbesial i weld gymaint o bobl yn croeso fi ‘nôl.

"Dwi’n rili hapus i gael y medal arian a dwi’n gyffrous i beth sy’n dod nesaf."

Image
Roedd sawl baner wedi cael ei greu i groesawu Ruby yn ôl i Gaerdydd
Roedd sawl baner wedi cael ei chreu i groesawu Ruby yn ôl i Gaerdydd.

Fe gafodd Pencampwriaeth Gymnasteg Artistig y Byd ei chynnal yn Jakarta, Indonesia rhwng 19 a 25 Hydref.

Enillodd Ruby Evans y fedal arian yng nghystadleuaeth y llawr, gydag Abigail Martin o'r DU yn cipio'r fedal efydd.

Fe wnaeth y cyn-ddisgybl o Ysgol Plasmawr ennill dwy fedal arian y llynedd mewn cystadlaethau tîm.

Ond eleni roedd hi wedi creu hanes drwy ennill medal unigol - y person cyntaf o Gymru i gyflawni hynny.

Dywedodd nad oedd hi'n ymwybodol o hynny tan ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben.

"Dwi ddim wedi gwybod bod fi yw’r person cyntaf o Gymru i cael individual medal o gymnasteg," meddai.

"Mae e’n sbesial, oherwydd mae e yn achievment a mae e’n history."

Image
Ruby Evans yn cystadlu yn Jakarta dros y penwythnos. Llun: Reuters
Ruby Evans yn cystadlu yn Jakarta dros y penwythnos. Llun: Reuters

Ruby Evans oedd y Gymraes gyntaf ers 28 mlynedd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd pan gystadlodd hi ym Mharis y llynedd.

 hithau yn 18 oed yn unig mae hi eisoes wedi cyflawni tipyn yn y byd gymnasteg - gan gynnwys ennill pum medal aur ym Mhencampwriaeth Gogledd Ewrop.

Gyda llai na flwyddyn tan Gemau'r Gymanwlad, cynrychioli Cymru yn Glasgow yw'r cam nesaf i Ruby.

"Commonwealth [Games] blwyddyn nesaf, 100%.

"Dwi eisiau mynd i’r Commonwealth am Cymru. Hwnna yw'r aim i fi."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.