Ian Rush wedi'i gludo i'r ysbyty gyda'r ffliw
Roedd yn rhaid i gyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, Ian Rush, dreulio cyfnod o 48 awr mewn uned gofal dwys ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty gyda’r ffliw.
Cafodd y dyn 64 oed o’r Fflint ei gludo i Ysbyty Iarlles Caer wythnos diwethaf ar ôl iddo gael trafferthion anadlu yn ei gartref.
Yn ôl adroddiad gan y Daily Mail, cafodd Mr Rush ei anfon i'r uned gofal dwys yn yr ysbyty lle cafodd sylw ar frys.
Mae bellach wedi cael ei ryddhau o’r uned gofal dwys, ond mae’n parhau yn yr ysbyty wrth iddo wella o’r salwch.
Mae ei ffrindiau’n dweud ei fod bellach "mewn hwyliau da" ac yn gobeithio dychwelyd adref cyn y Nadolig.
Mae Mr Rush yn cael ei ystyried yn un o’r ymosodwyr gorau yn hanes pêl-droed Prydain, ac mae’n dal i fod y chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau i Glwb Pêl-droed Lerpwl.
Fe sgoriodd 28 o goliau mewn 73 gêm dros Gymru hefyd, gyda’i record fel sgoriwr gorau’r tîm cenedlaethol wedi’i thorri gan Gareth Bale yn 2018.
Mae Mr Rush yn parhau i weithio fel llysgennad i Glwb Pêl-droed Lerpwl.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod yn "diolch i’r holl staff yn yr ysbyty am roi’r gofal gorau posibl i’n cawr a llysgennad y clwb".
"Mae pawb yn Lerpwl yn dymuno gwellhad buan iddo," ychwanegodd.