'Angen i bobl ddeall nad dim ond pobl hŷn sy'n gallu cael dementia'

Tony ac Erin Thomas

Mae dynes ifanc wedi dweud bod angen codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith pobl ifanc ar ôl i'w thad gael diagnosis yn ei bumdegau.

Cafodd Tony Thomas, contractwr amaethyddol o bentref Gaerwen ar Ynys Môn, ddiagnosis o ddementia blaen-arleisiol (FTD) yn 52 oed.

Grŵp o anhwylderau'r ymennydd ydi FTD sy'n cael ei achosi drwy golli celloedd nerfol yn yr ymennydd.

Gall FTD arwain at newidiadau mewn ymddygiad, personoliaeth ac iaith.

Mae Mr Thomas, 57, wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cael gofal ym Mryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon, canolfan sy'n arbenigo mewn gofal dementia.

Yn dilyn ei ddiagnosis mae ei ferch, Erin Thomas, yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith pobl ifanc.

"Cafodd fy nhad ddiagnosis o FTD bum mlynedd yn ôl, ond roedd y broses honno'n anodd oherwydd nad oedd y system yn gallu addasu i wneud diagnosis o rywun mor ifanc cymerodd dros dair blynedd o'r arwyddion cychwynnol iddo gael asesiad," meddai.

Image
Tony ac Erin Thomas o Fon
Tony ac Erin Thomas o Ynys Môn

Yn ôl Erin, mae angen mwy o gyfleusterau arbenigol i bobl fel ei thad yng ngogledd Cymru. 

"Nid oes unrhyw un yn yr ardal, a'r unig leoedd sydd ar gael yw cartrefi gofal, ond yn 57 oed mae'n rhy ifanc i fod mewn cartref gofal pobl hŷn," meddai.

"Mae angen gwneud paratoadau i ddarparu ar gyfer pobl fel fy nhad. Mae'n siaradwr Cymraeg ac mae angen gofalu amdano yn lleol."

Ychwanegodd: "Nid yw ei ddementia yn mynd i ddiflannu ac nid oes iachâd ar hyn o bryd."

Beth yw FTD?

Mae FTD yn cwmpasu sawl math o ddementia. Mae ymchwil wedi dangos bod y cyflwr yn effeithio ar ddynion a merched a gall ddigwydd o ganlyniad i anghydbwysedd genetig a’i fod yn etifeddol.

Yn gyffredinol, mae FTD yn ymddangos fel anhwylder ymddygiadol neu iaith gan ddechrau'n raddol.

Fel rheol mae'n effeithio ar bobl rhwng 45 a 64 oed, ond gall hefyd effeithio ar bobl iau a hŷn na hyn.

Ar hyn o bryd nid oes iachâd na thriniaeth symptomatig gymeradwy ar gyfer FTD.

Image
Erin Thomas YBAB
Bydd Erin yn ymddangos ar raglen Y Byd ar Bedwar nos Lun sy'n ymchwilio i'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru i'r rhai o dan 65 oed gyda dementia

Dywedodd Nia Davies Williams, cerddor preswyl ym Mryn Seiont Newydd, fod Mr Thomas wedi cyflwyno heriau anarferol i staff.

"Roedd yn rhaid i ni feddwl yn ofalus am y rhaglen gyfoethogi i Tony gan ei fod yn llawer iau na'r mwyafrif o breswylwyr eraill," meddai.

"Roedden ni'n ymwybodol ei fod yn mwynhau chwarae pŵl ac fe wnaethon ni osod bwrdd rhywfaint o bellter o'i ystafell i'w annog i gerdded. 

"Roedden ni'n falch o'i weld yn gwneud y daith ac yn cofio sut i chwarae'r gêm. Byddai'n chwarae drwy'r dydd pe gallai."

Ychwanegodd Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd: "Mae bob amser yn drasiedi gweld pobl mor ifanc â Tony yn cael diagnosis o ddementia.

"Mae dros 100 o breswylwyr yma ym Mryn Seiont Newydd ac mae yna bob amser llond llaw o bobl yn eu 50au hwyr a'u 60au cynnar yma.

"Rwy'n hapus bod Tony wedi setlo i fywyd ym Mryn Seiont Newydd a'i fod yn hapus ac yn fodlon a bod Erin a'i theulu yn falch o hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.