Pryder trefnwr angladdau am ymddygiad gyrwyr
Mae trefnwr angladdau yn dweud bod y "cynnydd mewn pobl" sydd yn gyrru rhwng rhes o gerbydau angladd yn "dorcalonnus."
Ers gadael ysgol mae Geraint Griffith, sydd yn 47 oed wedi gweithio yn y diwydiant trefnu angladdau.
Bellach mae'n gyfarwyddwr ar gwmni Morgan Vowles ym Mhontypridd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod gyrwyr y cwmni wedi gweld cynnydd yn nifer y ceir sydd yn torri ar draws y cerbydau angladd yn ddiweddar, sydd wedi arwain at rai teuluoedd yn cyrraedd angladdau'n hwyr.
“Mae’n digwydd yn fwy a fwy aml ac mae’n dorcalonnus a bod yn onest," meddai.
“Mae wedi dod i’r pwynt lle mae damweiniau bron wedi digwydd achos bod rhywun eisiau torri trwyddo’r ceir.
“Pe bai chi'n 30 eiliad, un funud neu ddwy funud yn hwyr i ble mae angen i chi fod, meddyliwch am y person sydd wedi marw a'r teuluoedd sy'n dilyn.
“Mae’r teuluoedd yn grac, ma’ mwy o bwysau arnyn nhw achos bod rhywun wedi torri trwy canol y ceir.
“Ni wedi cael un digwyddiad lle mae’r teulu yn hwyr i’r angladd oherwydd bod rhywun wedi torri ar draws a wedyn maen nhw wedi cael eu dal mewn goleuadau traffic."
Dywedodd Mr Griffith bod tri o gerbydau fel arfer yn teithio i'r angladd, sef yr hers a cherbydau sydd yn cludo aelodau'r teulu.
Mae'r cerbydau yn teithio ar gyflymder o 20mya fel arfer er mwyn gallu aros gyda'i gilydd.
Nid oes gan deithiau angladdau hawliau arbennig ar y ffyrdd, gan gynnwys ar gylchfannau nac wrth oleuadau traffig.
Ond mae Geraint Griffith yn galw ar bobl i barchu'r teithiau, ac i alluogi'r ceir i aros gyda'i gilydd yn hytrach na thorri ar eu traws pan bod modd.
“Mae pobl mewn rush i fynd unrhyw le. Does dim pum munud gyda nhw i eistedd yn ôl a dweud ‘nai adael nhw fynd’," meddai.
“Does neb eisiau bod tu ôl i hers achos bod e’n teithio’n araf lawr yr hewl. Mae pobl eisiau bod rhywle mewn brys.
“Felly i ni fel cwmni, mae’n rhoi pwysau arnon ni achos mae’r anxiety i fi a gweddill y staff i gyd mor uchel.
“Mae’n pwysau ni ddim wedi arfer gyda a ddim mo'yn, ni’n poeni bod e'n digwydd mwy a mwy rheolaidd."
'Sut bydde ti'n teimlo?'
Roedd Geraint wedi rhannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn galw ar bobl i beidio torri ar draws cerbydau angladd sydd yn teithio i gapel neu amlosgfa.
Mae'n erfyn ar bobl i feddwl sut y bydden nhw'n teimlo pe bai nhw'n teithio yn y cerbyd angladd i ffarwelio gydag un o'u hanwyliaid.
"Nesi roi y post lan i godi ymwybyddiaeth ac yn y gobaith bod e’n digwydd yn llai.
“Pe bai hyn yn digwydd i nhw, bydde nhw’n grac iawn. Ond mae neb yn gweld e fel ’na tan bod e’n digwydd i nhw ac mae’r sefyllfa yn wahanol.
“Ni ishe pobl bod yn aware, cael pum munud arall a gadael i ni fynd trwy traffig a mynd ymlaen heb unrhyw un yn torri ar draws a gadael ni wneud ein swydd.
“Meddwl, os mai hwn oedd teulu ti, beth bydd ti moyn? Sut bydde ti'n teimlo?"
