Hadush Kebatu wedi ei alltudio i Ethiopia dros nos

Hadush Gerberslasie Kebatu

Mae troseddwr rhyw oedd wedi cyrraedd y DU yn anghyfreithlon, a gafodd ei ryddhau o'r carchar ar ddamwain wedi cael ei alltudio o'r wlad, yn ôl cyhoeddiad gan y llywodraeth dros nos.

Cafwyd Hadush Kebatu yn euog o ymosod yn rhywiol ar ddynes a merch 14 oed yn Epping, Essex tra roedd yn byw mewn gwesty i geiswyr lloches, ond cafodd ei ryddhau ar gam gan staff yng Ngharchar Chelmsford yr wythnos diwethaf.

Cafodd ei gludo'n ôl i'r ddalfa yn dilyn ddydd Sul, ac fe gafodd ei alltudio drwy ei roi ar awyren i Ethiopia nos Fawrth, ac mae bellach wedi cyrhaeddodd y wlad fore Mercher, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood: "Ni ddylai camgymeriad yr wythnos diwethaf fod wedi digwydd - ac rwy'n rhannu dicter y cyhoedd ei fod wedi digwydd."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau fod Kebatu yn cael ei alltudio a'i symud oddi ar dir Prydain. Rwy'n falch o gadarnhau bod y troseddwr rhyw ffiaidd hwn bellach wedi'i alltudio, ac mae ein strydoedd yn llefydd mwy diogel oherwydd hynny."

Fe gyrhaeddodd Kebatu y DU yn wreiddiol ar ôl croesi'r Sianel ar gwch bach ar 29 Mehefin, a hynny ar ôl teithio trwy Swdan, Libya, yr Eidal a Ffrainc.

Roedd yn aros yng Ngwesty'r Bell yn Epping, Essex, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel llety i fudwyr a cheiswyr lloches.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.