19 achos o wenwyn bwyd wedi eu cadarnhau mewn bwyty yn ne Cymru

cwrt henllys

Mae 19 o achosion o wenwyn bwyd wedi eu cadarnhau ar ôl i gwsmeriaid oedd wedi ymweld â bwyty 'carferi' yng Nghwmbrân.

Roedd Cyngor Torfaen wedi ymchwilio i adroddiadau gan gwsmeriaid oedd yn dweud iddynt fynd i "deimlo'n sâl" ar ôl bwyta ym mwyty Cwrt Henllys, yng Nghwmbrân, ar 5 Hydref.

Cadarnhaodd y cyngor mai'r bacteria 'Clostridium perfringens,' sy'n lledaenu wrth i fwyd oeri, oedd achos y gwenwyn bwyd. 

Mae'r cyngor bellach wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd.

Mae'r bwyty yn dweud ei bod wedi gwneud "newidiadau cadarnhaol" ers y digwyddiad ac wedi "cymryd yr holl gyngor a chefnogaeth" gan dimau iechyd yr amgylchedd.

Yn dilyn ymchwiliad y cyngor, dywedodd nad oedd unrhyw achosion pellach wedi'u hadrodd.

Mae BBC Wales yn adrodd fod 52 o bobl wedi mynd yn sâl gyda gwenwyn bwyd, yn dilyn ymweliad â'r bwyty ar ddechrau mis Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.