Manceinion: Cynnal cwestau dau ddyn a fu farw mewn ymosodiad ar synagog
Mae cwestau dau ddyn a fu farw mewn ymosodiad terfysgol ym Manceinion wedi eu cynnal ddydd Mercher.
Clywodd Llys Crwner Manceinion fod Melvin Cravitz wedi marw o ganlyniad i nifer o anafiadau trywanu gafodd eu hachosi gan y terfysgwr Jihad Al-Shamie ger synagog yn y ddinas.
Bu farw'r ail ddioddefwr, Adrian Daulby, 53 oed, o un anaf gafodd ei achosi gan ergyd o wn swyddog arfog yr heddlu oedd wedi rhuthro i'r lleoliad.
Neidiodd Mr Daulby, gafodd ei ddisgrifio fel "arwr tawel", o'i sedd i geisio cau drysau Synagog Heaton Park yn Crumpsall, Manceinion, wrth i'r ymosodiad ddechrau ar 2 Hydref.
Roedd wedi llwyddo i ddal prif ddrysau'r synagog ar gau wrth i Al-Shamie geisio gorfodi ei ffordd i mewn i barhau â'i ymosodiad.
Yna fe gafodd Mr Daulby ei daro yn ei frest tra'r oedd y tu ôl i'r drws pan daniodd swyddog arfog i gyfeiriad y drws.
Cafodd ei farwolaeth ei chofnodi'n swyddogol yn y lleoliad am 10.15 y bore hwnnw meddai'r Prif Uwcharolygydd Lewis Hughes o Heddlu Manceinion wrth y gwrandawiad.
Eiliadau ynghynt, roedd Mr Cravitz, oedd yn 66 oed ac yn dad i dri o blant, wedi cael ei drywanu gan Al-Shamie.
Dechreuodd ei ymosodiad treisgar trwy yrru ei gar Kia Picanto at staff diogelwch a giatiau allanol y synagog am tua 9.30.
Roedd y ddau ddioddefwr yn addolwyr yn y synagog, ac roeddynt wedi ymgynnull gydag eraill ar gyfer diwrnod Yom Kippur, sef diwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn i Iddewon.
Fe geisiodd Al-Shamie ymosod ar y synagog, gan wisgo gwregys hunanladdiad ffug, cyn cael ei saethu'n farw gan heddlu arfog.
Cafodd y cwestau eu gohirio ac fe fydd gwrandawiad cyn cwest yn cael ei gynnal ar 18 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Llun: PA
