Neil Foden: Cyhoeddi adolygiad diogelu plant yr wythnos nesaf
Fe fydd adroddiad hirddisgwyliedig ar ba wersi sydd i’w dysgu yn sgil troseddau'r pedoffeil a'r cyn brifathro Neil Foden yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf wedi iddo gael ei ohirio ar fyr-rybudd fis diwethaf.
Cyhoeddodd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ym mis Medi eu bod yn canslo cyhoeddi canfyddiadau adolygiad i brosesau diogelu plant a gafodd ei gomisiynu yn sgil troseddau’r pedoffeil a chyn-brifathro, lai na 24 awr cyn yr oedd disgwyl datgelu’r canfyddiadau.
Mewn datganiad ar y pryd, fe ddywedodd y bwrdd bod yr oedi wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond wedi ei wneud er mwyn “ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth”.
Mewn datganiad ddydd Mercher, cyhoeddodd y Bwrdd Diogelu Plant y bydd adroddiad yr Adolygiad o Ymarfer Plant yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth nesaf.
Ychwanegodd y bwrdd eu bod yn dymuno "ymddiheuro eto am orfod gohirio cyhoeddi'r adroddiad a'r effaith a gafodd hyn ar ddioddefwyr a theuluoedd. "
Cafodd yr adolygiad dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE ei gomisiynu fis Awst y llynedd yn dilyn cael y cyn-brifathro Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Prif lun: Ysgol Friars, Bangor (ITV)
