'Yn aml, does dim symptom': Annog dynion i gael prawf canser y prostad
'Yn aml, does dim symptom': Annog dynion i gael prawf canser y prostad
Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wnaeth gael diagnosis o ganser y prostad er nad oedd ganddo unrhyw symptomau wedi annog dynion i gael eu profi am yr afiechyd.
Does yna ddim cynllun sgrinio cenedlaethol ar gyfer canser y prostad, er bod dynion dros 50 oed yn gallu cael prawf os ydyn nhw yn gofyn am un.
Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn ystyried ar hyn o bryd a ddylid cyflwyno cynllun sgrinio neu i gadw'r drefn fel ag y mae.
Mae rhai arbenigwyr meddygol yn bryderus nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi'r angen am gynllun sgrinio, ac y gallai rhai pobl gael diagnosis o ganser y prostad neu driniaethau di-angen pan nad yw'r afiechyd arnyn nhw.
Cafodd Brian Evans sydd yn 78 oed ac yn dod o Cross Hands wybod bod ganddo ganser y prostad yn 2018.
"Roedd e'n dipyn o sioc i ddechrau gyda. Doedd yna ddim symptomau o gwbl.
"Es i'r doctor i weld achos bod e yn y teulu. Mae fy mrawd wedi cael prostate cancer felly o ni'n meddwl dylsen ni gael test fyd. Ffindes i fe'n anodd i gael test trwy'r syrjeri. Ges i fi erbyn y diwedd."
Cafodd Brian brawf gwaed oedd yn dangos bod ei lefelau PSA yn uwch na'r hyn oedd yn gyffredin.
Bu'n rhaid iddo gael cwrs o saith wythnos a hanner o driniaeth radiotherapi a thair blynedd o chwistrelliadau hormon. Mae'n glir o'r afiechyd erbyn hyn ond yn cael prawf bob chwe mis.
Mae Brian yn annog dynion i fynd am brawf os ydyn nhw yn pryderu. Mae un mewn wyth dyn yn debygol o gael canser y prostad ond mae'r perygl yn cynyddu i 1 mewn tri ar gyfer dynion ble mae rhywun yn y teulu wedi cael canser y prostad.
Mae un mewn pedwar o ddynion du yn datblygu'r canser hefyd. Mae Brian yn credu y dylid cyflwyno cynllun sgrinio o rhyw fath ar gyfer yr afiechyd
"Dylen ni gael rhywfaint o sgrinio. Mae sgrinio i'r merched ond i'r dynion s'dim byd. Fydden ni definitely yn dweud dyle sgrinio i gael ei wneud."
'Yn aml, does dim symptom'
Mae Meirion Owen o Lanarthe yn cael profion rheolaidd am ganser y prostad, ac mae'n wirfoddolwr gydag elusen Prostate Cymru.
"Yn aml iawn, fel wedodd Brian, does yna ddim un symptom, felly mae eisiau hysbysu pobl.
"Mae rhai pobl yn codi yn y nos a meddwl bod problem, ond mae rhai â dim problemau o gwbl.
"Mae Chris Hoy wedi cael diagnosis yn ddiweddar ar Stage Four a dim gobaith i wella. Os chi'n medru dal y peth yn ddigon cloi mae gobaith i chi."
Mae Meirion yn annog pobl sydd yn poeni am eu hiechyd i edrych am wybodaeth ar wefan Prostate Cymru: "Mae 'da ni ffurflen yno a gwahanol gwestiynau a chi'n llenwi nhw mewn ac mae sgôr ar y diwedd.
"Os ydy'r sgôr ddim beth chi'n disgwyl, cerwch i weld y meddyg, a cerwch a'r ffurflen gyda chi. Gobeithio y bydd y test yn dod o'r peth."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU: "Mae'r llywodraeth yn glir eu bod am weld sgrinio, ond mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail tystiolaeth.
"Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, sydd yn annibynnol, yn ystyried hyn fel blaenoriaeth, ac fe fyddwn ni yn ystyried y cyngor hwnnw."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael cais am ymateb.
Symptomau posib Canser y Prostad:
- Pasio dŵr yn fwy rheolaidd, yn enwedig gyda'r nos
- Ei chael hi'n anodd pasio dŵr
- Teimlo dan straen wrth basio dŵr neu gymryd yn hir i basio dŵr
- Teimlad nad yw'r bledren wedi gwagio yn llwyr
- Teimlad bod angen rhuthro i'r tŷ bach, a chael damwain cyn cyrraedd