Angen i wledydd Ewrop 'weithredu nawr' er mwyn osgoi cyfngiadau Covid

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio gwledydd Ewrop fod angen gweithredu i frechu rhagor o'r boblogaeth a chyflwyno'r defnydd o fygydau eto er mwyn osgoi llethu'r gwasanaethau iechyd yn y misoedd i ddod.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, Hans Kluge, fod cynnydd wedi bod mewn achosion ymysg cymdeithas sy'n gweithredu bron fel y cyfnod cyn y pandemig.
roedd bron i 3,000,000 yn rhagor o achosion o Covid-19 yr wythnos diwethaf.
Galwodd Mr Kluge ar wledydd i gyflwyno mesurau pellach er mwyn osgoi cyfyngiadau llawer llymach yn y dyfodol.
Darllenwch ragor yma.