Newyddion S4C

Gwylan

Trigolion Sir Ddinbych yn cwyno am ymosodiadau gan wylanod 'ffyrnig'

ITV Cymru 20/07/2022

Mae pobl Rhuddlan yn Sir Ddinbych yn dweud bod ganddyn nhw glwyfau mȃn yn dilyn cyfres o ymosodiadau "ffyrnig" gan wylanod. 

O ganlyniad, mae rhai ymwelwyr i'r dref yn cario ymbarelau mewn ymgais i osgoi’r adar. 

Mae’n debyg mai nyth dau o gywion bach sy’n achosi’r ymddygiad, gyda’u rhieni yn meddwl bod y sawl sy’n cerdded heibio yn fygythiad.  

Mae dau o weithwyr Cyngor Sir Ddinbych - Mark Vernon a Steve Scott - sy’n glanhau ffyrdd Rhuddlan yn rhai sydd wedi dioddef dicter yr adar. 

Dywedodd Mark, 55, o Lanelwy: “Roedd Steve yn chwilio trwy’r biniau wrth imi edrych yn y maes parcio am sbwriel. Yn sydyn, teimlais grafangau ar fy mhen.

"Roedd hi fel ymosodiad tawel - wnes i ddim gweld na chlywed unrhyw beth yn dod.”  

“Wnes i ddim dechrau gwaedu, ond dwi wedi clywed bod eraill heb fod mor lwcus. Roedd adeiladwr lleol wedi dweud wrtha’i mai fi oedd y trydydd person i gael ei ymosod arno’r bore hwnnw- maen nhw’n ffyrnig.”

'Pwnc llosg'

Yn ôl Darren, gŵr tafarn y King’s Head roedd hi'n arbennig o wael ychydig wythnosau yn ôl, gan adael rhai pobl ȃ chlwyfau mȃn ar eu pen. 

“Roedd y gwylanod yn ymosod ar bawb oedd yn mynd trwy faes parcio’r dafarn. Doeddwn i ddim yn gallu credu beth oeddwn i’n ei weld.” 

“Dwyt ti ddim yn gallu difa gwylanod na chael gwared ar eu nythod. Heblaw bod pawb yn gosod pigau ar eu toeau, bydd y broblem yn symud i fannau eraill.” 

Mae’r cynghorydd lleol Jackie Burnham yn dweud ei bod hi’n bwnc llosg yng nghyfarfodydd cyngor y dref, ond gan fod gwylanod sy’n nythu wedi’u gwarchod gan y gyfraith, prin yw’r datrysiadau posib. 

Fodd bynnag, mae Jackie yn ceisio rhybuddio pobl leol trwy bostio lluniau ar Facebook. 

“Dyw hi ddim yn broblem ar y Stryd Fawr, achos bod ‘na ormod o draffig yn fwy na thebyg,” meddai. 

“Ond lle dwi’n byw, mae’r gwylanod yn ymosod ar bobl sy’n mynd ȃ’u cŵn am dro.”

“Mae’n dueddol o ddigwydd bron bob haf. Mae gwylanod o hyd yn broblem i bobl sy’n byw’n agos i’r arfordir, gan fod cymaint ohonyn nhw’n gweld tai fel clogwyni.” 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.