Newyddion S4C

Lluniau yn dangos ffermwr yn achub ei gnwd rhag tanau gwyllt ym Môn

ITV Cymru 19/07/2022
Ffarmwr

Mae lluniau trawiadol wedi eu tynnu yn dangos ffermwr yn rhuthro i achub bwndeli o wellt rhag tân oedd yn llosgi allan o reolaeth ar Ynys Môn. 

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw brynhawn dydd Llun wedi i'r tân ddechrau mewn cae ger pentref Llanfairynghornwy. 

Image
Ffarmwr

Daw hyn wrth i'r Swyddfa Dywydd gofnodi'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru sef 37.1 gradd Celsius yn Sir y Fflint. 

Yn ardal Llanfairynghornwy, fe wnaeth y tymheredd godi i 27 gradd. 

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.