Tom Tugendhat allan o'r ras ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr
Tom Tugendhat yw'r diweddaraf i adael y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dilyn rownd arall o bleidleisio gan ASau Ceidwadol ddydd Llun.
Fe fydd y pedwar ymgeisydd sydd ar ôl yn wynebu rownd arall o bleidleisio yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Y pedwar aelod sy'n weddill yw Kemi Badenoch, Penny Mordaunt, Rishi Sunak a Liz Truss.
Cafodd canlyniad yr ail bleidlais ei gyhoeddi gan gadeirydd Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, am 20:00 nos Lun.
Canlyniad y bleidlais oedd:
- Kemi Badenoch, 58
- Penny Mordaunt, 82
- Rishi Sunak, 115
- Liz Truss, 71
- Tom Tugendhat, 31
Bydd y pleidleisio'n parhau tan y bydd dau ymgeisydd ar ôl, cyn i aelodau'r blaid ar lawr gwlad ddewis yr ymgeisydd buddugol.
Yn gynharach ddydd Llun, fe wnaeth Sky News ganslo eu dadl deledu ar gyfer yr ymgeiswyr, wedi i Rishi Sunak a Liz Truss ddewis peidio cymryd rhan yn y drafodaeth.
Roedd y ddadl gyda Kay Burley wedi'i threfnu ar gyfer nos Fawrth, yn dilyn darlledu dwy ddadl ar Channel 4 ac ITV dros y penwythnos.
Daw hyn wedi i aelodau seneddol Ceidwadol godi pryderon am effaith y dadleuon ar ddelwedd y blaid.