Newid hinsawdd yn 'gwneud ein gwaith yn anoddach' medd gwasanaethau tân
Newid hinsawdd yn 'gwneud ein gwaith yn anoddach' medd gwasanaethau tân
Mae swyddogion tân yng Nghymru yn dweud bod newid hinsawdd yn gwneud eu swyddi yn "anoddach" gan achosi cynnydd yn y nifer o dannau gwyllt.
Daw'r rhybudd wedi i Gymru gofnodi ei diwrnod poethaf erioed ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1 gradd Celsius yn Sir y Fflint.
Yn sgil cynhesu byd eang, mae disgwyl i Gymru brofi hafau hirach a phoethach, gan weld tymereddau eithafol yn fwy aml.
Mae'r tymereddau uchel yma ynghyd â thywydd sychach yn achosi "cynnydd dramatig" yn y risg o dannau gwyllt, yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Mae Iwan Cray yn ddirprwy brif swyddog tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn gadeirydd Bwrdd Tannau Gwyllt dros Gymru. Mae'n dweud bod y newid yn yr hinsawdd yn cael dylanwad sylweddol ar ei swydd.
“Mae’n sicr yn neud ein gwaith ni’n anoddach ac mae’n bwysig. Mae gennym ni gyd rhan i chwarae yn y newid yn ein hinsawdd," meddai.
"Beth y’ ni’n gweld o gwmpas Ewrop yw bod y tannau yn mynd yn fwy ac yn mynd yn fwy allan o reolaeth.”
'Rhaid delio gyda hwn nawr'
Yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol, mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cynnal amryw o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o beryg tannau gwyllt.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân mae 96% o dannau gwyllt yn cael eu cynnau yn fwriadol.
Dywedodd Mr Cray ei fod yn ymwybodol bod llosgi tir yn rhan o hanes amaethyddiaeth yng Nghymru, ond bod y gwasanaeth tân yn ceisio cydweithio gyda ffermwyr i leihau'r risg.
"Ni eisiau adeiladu ar y berthynas sydd gyda ni gydag amaethwyr a thirfeddianwyr a'r rhan maen nhw'n chwarae yn llosgi'r tir dros Gymru," dywedodd.
"Ni'n derbyn bod llosgi'r tir yn rhan o hanes ac yn rhan o reoli tir ac wedi bod am ganrifoedd."
“Ond beth sydd yn bwysig i ni fel gwasanaethau yw bod y llosgi yn digwydd o dan reolaeth.”
“Dyna pam ni am gael y drafodaeth yma trwy’r wythnos er mwyn ffeindio ffyrdd i reoli'r tannau 'ma cyn bod nhw’n cyrraedd y pwynt lle maen nhw allan o reolaeth.”
Fel rhan o'i gwaith i leihau tannau gwyllt, mae'r gwasanaeth tân yn cydweithio gyda'r prosiect Llethrau Llon, sydd yn ceisio amddiffyn natur yn sgil effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru.
"Da ni yn y Sioe i weithio a siarad gyda ffermwyr ynglŷn â sut maen nhw'n delio a'u tir a sut maen nhw'n llosgi eu tir," meddai Hannah Hughes, sydd yn gweithio gyda'r prosiect.
"Mae newid hinsawdd yn golygu bod tannau gwyllt yn mynd i fod yn fwy aml a dy' ni ddim yn cael be ni angen i ddelio gyda'r tannau yma yng Nghymru."
"Mae rhaid i ni ddelio gyda hyn nawr cyn iddo fynd yn waeth."