Newyddion S4C

RNLI yn lansio ymgyrch i gadw’n ddiogel yn y dŵr

19/07/2022

RNLI yn lansio ymgyrch i gadw’n ddiogel yn y dŵr

Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a Gwylwyr y Glannau yn atgoffa teuluoedd yng Nghymru i gymryd gofal wrth ymweld â’r arfordir dros wyliau’r haf.

Y llynedd fe wnaeth achubwyr bywyd yr RNLI gynorthwyo 990 o bobl yn ystod y gwyliau haf.

Wrth i'r ysgolion gau am yr haf eleni, mae achubwyr bywyd traeth yr RNLI yn rhagweld tymor hynod o brysur unwaith eto. 

Mae'r RNLI a Gwylwyr y Glannau yn gofyn i'r rhai sy'n ymweld â'r arfordir i fynychu traethau sydd ag achubwyr bywyd ac i fod yn ymwybodol o gyngor sylfaenol i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel.

Yn y blynyddoedd diweddar mae cynnydd wedi bod yn y nifer sydd wedi marw ar ôl mynd i drafferth ar y dŵr wrth badl fyrddio.

Wythnos diwethaf fu farw Emma Louise Powell yn 24 oed ar ôl iddi fynd i drafferth ar y môr ger Morfa, Conwy.

Y llynedd bu farw pedwar o bobl wrth badl fyrddio yn Afon y Cleddau yn Sir Benfro.

Mae Mark Treleaven-Jones yn hyfforddwr mewn academi sgiliau dŵr ac wedi rhannu ei bryderon am ddiogelwch wrth i bobl, yn enwedig plant, ddefnyddio padl fyrddau a gwneud gweithgareddau eraill ar y dŵr.

“Dros yr wythnosau diwethaf dwi wedi gweld plant ifanc iawn yn defnyddio padl fyrddau hollol amhriodol ar y môr a llynnoedd," meddai. 

“Y broblem ar ddiwedd y dydd yw bod y mwyafrif o bobl sy'n defnyddio padl fyrddau sydd wedi eu pwmpio. Felly maen nhw'n gallu cael ei dal gan y gwynt a gallant gael eu chwythu i ffwrdd yn eithaf cyflym.

"Mae hynny yn hynod o beryglus pan mae plant bach arnyn nhw heb gryfder i allu brwydro yn erbyn y gwynt."

'Cadw'n ddiogel'

Dywedodd Jo Price, achubwr bywyd arweiniol yr RNLI ar gyfer Ceredigion a De Cymru: "Er mwyn cadw’n ddiogel, rydym yn atgoffa teuluoedd i ddewis traeth achubwyr bywyd lle bo’n bosibl a nofio rhwng y baneri coch a melyn sef yr ardal fwyaf diogel gan ei fod yn cael ei fonitro’n gyson gan ein hachubwyr bywydau.

“Rydym yn gofyn i bawb, o bob oedran i gofio sut i arnofio os ydynt yn cael eu hunain mewn trafferthion yn y dŵr. Pwyswch yn ôl fel seren fôr, gan ddefnyddio'ch breichiau a'ch coesau i aros ar y dŵr. Bydd hyn yn caniatáu i chi reoli eich anadlu, yna galw am help neu nofio i ddiogelwch.

“Mae’r dechneg wedi’i phrofi i achub bywydau.”

Ychwanegodd Mark fod nifer o badl fyrddau sy’n cael ei gwerthu mewn archfarchnadoedd am bris rhad yn golygu “bod pobl yn defnyddio offer peryglus fel teganau lan y môr."

“Mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn gwrando ar neges y RNLI a Gwylwyr y Glannau am sut i fod yn ddiogel yn y dŵr.

“Os byddai'r dŵr yn le saff, fyddai ddim angen yr RNLI, ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych drwy gydol y flwyddyn ac yn achub bywydau.”

Drwy gydol misoedd yr haf, bydd hysbyseb i blant yr RNLI Seaside Safety yn cael ei ddarlledu ar sianeli teledu gyda’r gân fachog yn atgoffa’r rhai sy’n ymweld â’r arfordir i arnofio fel seren fôr os ydyn nhw’n mynd i drafferthion yn y dŵr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.