Agor cwest i farwolaeth bachgen 15 oed mewn chwarel

Clywodd cwest i farwolaeth bachgen 15 oed sut y bu iddo ddioddef "anafiadau niferus" ar ôl disgyn i mewn i chwarel yn Abersychan.
Bu Myron Davies farw ar 6 Gorffennaf ac fe gafodd merch 14 oed anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad hefyd.
Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi cyrraedd y chwarel ychydig wedi 18:30 ond roedd y bachgen wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd Myron ei ddisgrifio gan ei deulu fel y "ffrind gorau a brawd annwyl."
Fe ohiriodd y Crwner Caroline Saunders y cwest yn Llys Crwner Gwent tan Ebrill 2023 er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.
Darllenwch ragor yma.