Beirniadu Andy Powell am ei sylwadau am ddiagnosis dementia Ryan Jones

Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru, Andy Powell, wedi cael ei feirniadu yn chwyrn am ei sylwadau yn sgil y newyddion am iechyd cyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones.
Fe gyhoeddodd Jones ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar mewn erthygl i’r Times dros y penwythnos.
Fe wnaeth Powell ymateb ar Twitter drwy ddweud bod chwaraewyr rygbi yn gwybod y peryglon sy'n gysylltiedig â'r gamp.
We choose to play the game we know the problems what can happen !! Problems happen even if you don’t play sport
— Andy Powell (@andypowell8) July 17, 2022
Mae ei sylwadau wedi cael eu beirniadu yn chwyrn ac wedi eu disgrifio yn "ansensitif" gan lawer.
Dywedodd Jones, sy’n 41 oed, ei fod wedi cael diagnosis o Enseffalopathi Trawmatig Cronig (CTE) yn Rhagfyr 2021.
Fe enillodd Jones 75 o gapiau dros Gymru a thri i’r Llewod yn ei yrfa rhwng 2004 a 2014.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans