Rhybudd y gall ffermydd fynd i'r wal yn sgil gostyngiad mewn pris llefrith
Fe allai rhai ffermydd yng Nghymru fynd i’r wal oherwydd y gostyngiad sydyn ym mhris llefrith, medd Undeb Amaethwyr Cymru.
Yn ôl un ffermwr o Ben Llŷn mae’n amcangyfrif y bydd wedi gwneud £35,000 yn llai o incwm dros y chwe mis diwethaf o gymharu â’r un cyfnod y llynedd oherwydd o gostyngiad.
Yn ôl Dairy UK mae’r prisiau isel o ganlyniad i anghydbwysedd rhwng faint o lefrith sy’n cael ei gynhyrchu a faint sydd ei angen gan y cwsmer.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y pryder ac yn cydweithio gyda'r undebau i gefnogi ffermwyr.
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru mae disgwyl i brisiau llefrith aros oddeutu 30c i 35c y litr.
Ond mae prisiau cynhyrchu yn uwch ar 39c i 44c y litr sy’n golygu bod nifer o amaethwyr ar hyn o bryd yn gwneud colled ariannol wrth gynhyrchu.
Ers degawdau mae Rhisiart Lewis yn berchen ar fferm yn Llangybi ger Pwllheli ac yn godro rhyw 150 o wartheg.
Yn gyn Ffermwr Gyfarwyddwr ar Fwrdd Hufenfa De Arfon, mae’n dweud nad yw erioed wedi profi cwymp mor sylweddol a mor sydyn.
“Hwn ydi’r cwymp mwyaf sydyn ‘da ni wedi ei gael erioed,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae pethau wedi bod fel hyn ar hyd y blynyddoedd a dweud y gwir ac mae’r drop yma 'di bod ers mis Awst.”
'Ffermwyr mewn lle tywyll iawn'
Gyda gormod o lefrith yn cael ei gynhyrchu ar draws y byd o gymharu â’r galw amdano gan gwsmeriaid, mae goblygiadau ariannol i ffermwyr yng Nghymru.
“Mi oedd pris llefrith tua 44c y litr nôl ym mis Awst... ond fyny at Chwefror [eleni] fyddai 'di colli rhyw £35,000 gyda llai o incwm yn dod i mewn de,” ychwanegodd.
Wrth gynnal arolwg cychwynnol o’r sefyllfa yng Nghymru, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod ffermwyr yn nodi i nifer brofi gostyngiad o 9.46c y litr dros gyfnod o tri mis gyda phris cynhyrchu oddeutu 37c y litr.
Mae hynny’n golygu bod ffermwyr ar gyfartaledd yn colli tua 4 ceiniog ar bob litr.
“Mae’n ffermwyr llaeth ni yn rhedeg ar golled ar bob litr o laeth,” meddai Elin Jenkins, swyddog polisi Undeb Amaethwyr Cymru.
“Mae hynny yn rhywbeth sydd ddim yng nghynaliadwy, ac efo hynny os nad yw busnes yn gallu gwneud busnes dyw’r busnes ddim am oroesi o gwbl a byddwn ni’n colli ein ffermwyr.”
Ychwanegodd: “Mae nifer fawr o’n ffermwyr ni mewn lle tywyll iawn.
“Mae lot yn dioddef, yn poeni a ddim yn gweld sut allwn ni oroesi hyn mewn wyth, 10 neu 12 mis.”
Yn ôl Dairy UK, mae prisiau llefrith yn cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau ond bod y gostyngiad diweddar o ganlyniad i anghydbwysedd rhwng y galw a’r cyflenwad.
Mae Andrew RT Davies yn Gadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Senedd sy’n trafod materion amaethyddol ac yn dweud bod pryder am sgil effeithiau’r niwed i’r sector llaeth.
“Mae’r sector yn gyrru meysydd eraill fel cwmniau peiriannau, milfeyddygaeth a rhai eraill sy’n cael eu cefnogi,” meddai.
“Os bod 'na lai o bres yn mynd mewn i’r diwydiant llaeth mae’n golygu bod o ddim yn mynd i’r meysydd eraill hefyd.”
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau penodol “sy’n wynebu ffermwyr llaeth wrth i brisiau ostwng”.
"Yn ddiweddar, cyfarfu'r Dirprwy Brif Weinidog â'r FUW a'r AHDB (Bwrdd Datblygu Amaeth) i drafod y sefyllfa, a bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod ffermwyr yn cael mynediad at gymorth ymarferol.
"Rydym wedi ymrwymo i'r sector llaeth yng Nghymru, a, drwy ein cynlluniau amaethyddol, rydym yn cynnig ystod o gymorth sy'n addas i ffermydd llaeth i wella eu perfformiad ariannol ac amgylcheddol.
"Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gael i bob ffermwr, gan gynnwys y rhai yn y sector llaeth, er mwyn sicrhau bod ganddynt ddyfodol cryf a bywiog."