Harbwr Aberaeron: Tomen o dywod mân 'i'w ddisgwyl'
Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi disgwyl i domen o dywod mân ffurfio yn Harbwr Aberaeron gan roi "arian naill ochr" i ymateb i'r broblem
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies wrth Newyddion S4C fod y cyngor wedi disgwyl y byddai cerrig a thywod wedi symud yn sgil y cynllun.
Esboniodd fod "arian naill ochr i gael, beth bynnag felly bydd na ddim gofyniad i drethdalwyr Ceredigion i gyfrannu at y gost."
Datgelodd Newyddion S4C ym mis Tachwedd 2025 fod yna orwariant o £4m ar y cynllun sydd yn cynnwys morglawdd newydd ynghyd â gatiau llanw yn y dref.
Ond ers ei agor mae pryderon wedi eu codi gan hwylwyr am dalp sylweddol o gerrig sydd wedi ffurfio ar ochr ddeheuol y fynedfa i’r harbwr, sy'n achosi trafferthion wrth hwylio i mewn ac allan o’r harbwr.
Mae rhai yn lleol yn nodi fod Traeth y De yn Aberaeron wedi gweld newid hefyd gyda llai o gerrig yno yn dilyn y gwaith adeiladu a gymerodd bron i ddwy flynedd i’w gwblhau.
Peter Lloyd yw’r bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i fyw yn Aberaeron ac fel cyn-Gadeirydd Clwb Cychod Hwylio Aberaeron, dywedodd fod y cynllun wedi bod yn “gawlach.”
“Ma cwestiwn o ran pwy sydd yn mynd i dalu am y gwaith ma, ife y dylunwyr, neu, fel fi’n deall, Ceredigion ond pam ddyle pobl Ceredigion dalu am plans rhywun arall a s’mo fe’n gweithio?”
“Ma sawl cwestiwn i’w holi – on nhw [Cyngor Sir Ceredigion] yn pallu gwrando ambwti’r drifft a bydde pethe yn casglu achos y dyluniad”
“Y rheswm bod cerrig yn blocko lan yr harbwr nawr yw achos s’dim grwyn i gal [ar pier y de]” meddai wrth Newyddion S4C.
'Peryglus'
Mae Lyndsay Geddis yn Gadeirydd ar Glwb Rhwyfo Aberaeron ac yn dweud fod y twmpath wrth fynediad yr harbwr yn “beryglus.”
“Fel rhwyfwr, ni angen lled ar gyfer y rhwyfau a gyda’r silt, mae’n cyfyngu lled y sianel allan o’r harbwr.
“Mae’n effeithio ar ein gallu i fynd allan i’r môr gan ei fod yn beryglus ac yn golygu gallai’r cwch rhwyfo gael ei orfodi arno’r silt.
“Gyda’r gwyntoedd o’r de-orllewin, mae’n rhoi heriau i ni allu fynd allan o’r harbwr,” meddai.
Mynegodd ei phryderon hefyd am gychod hwylio: “Mae cychod mwy o faint angen mwy o ddyfnder ac angen llanw uchel. Gyda’r silt, mae’n ei gwneud hi’n llai bas a dydych chi ddim yn gweld e.
“Ar gyfer rhywun newydd fyddai’n defnyddio’r harbwr, mae’n beryglus gan nad oes arwyddion yn nodi’r dŵr bas.
“Rydyn ni yn Aberaeron wedi ein cyfyngu o ran amseroedd llanw a nawr mae angen mwy o lanw ar y cychod mawr sydd yn cyfyngu ar pryd y gallwn fynd allan.”
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd arweinydd y cyngor, Bryan Davies, bod “adroddiad cychwynnol yn sôn bydde 'na rhyw fath o far ‘na beth bynnag.
“Achos bod e yn y cynllun cychwynol yn gweud mi fydd hwn i ddigwydd i bob pwrpas, ma arian naill ochr i gael beth bynnag, felly bydd na ddim gofyniad i drethdalwyr Ceredigion i gyfrannu at y gost o symud hwnna.
“Os oes na rhwbeth i neud gyda dyluniad y cynllun ei hunan, wrth reswm, ma na bwerau gyda ni i herio nhw.
“Mae’n rhaid sylweddoli fod ‘na 7,000 metr ciwb o’r cerrig mân wedi eu symud o wal de’r harbwr a’i adael ar draeth y de, falle bod hwnna yn gamgymeriad yn ei hunan, sai’n siŵr, ma hynny lan i’r contractwyr."
Ychwanegodd Mr Davies: “Gyda llif naturiol drifft gogleddol, mae lot o’r tywydd yna wedi gweithio ei ffordd lan i wal de’r harbwr.”
Symud tywod a cherrig
Wrth ymateb i honiadau nad oedd y cyngor wedi gwrando ar farn bobl leol cyn cychwyn ar y gwaith adeiladu, dywedodd: “Pa bynnag beth yw’r ymgynghoriad, ni yn gwrando ac edrych ar yr ymatebion.
“O fewn yr wythnosau nesaf, rydyn ni’n mynd i fynd ati i symud y tywod a’r cerrig o’r harbwr a bydd rhaid i ni weld sut fydd y llanw yn bihafio ar ôl hynny.
“Beth bynnag byddwn ni’n symud o’r harbwr nawr, byddwn ni ddim yn rhoi hwnnw nôl yn yr un lle felly gobeithio nawr dros gyfnod o amser ac yn hirdymor ma’r cynllun yn gwella,” meddai.
Does dim amcangyfrif o ran y gost o wneud hyn ond esboniodd bod y cyngor yn clirio harbyrau’r sir yn achlysurol i “sicrhau mynediad.”
“Dyw hwn ddim yn rhywbeth newydd i bob pwrpas ac felly ma fe jyst yn rhan o’n gwaith ni fel awdurdod.”
