Dynes ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn Llandudno
Mae dynes wedi ei chludo i ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl iddi gael ei tharo gan gar tra roedd hi'n cerdded yn Llandudno fore Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Charlotte ger siop B&Q, ac mae dyn 45 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod, ond mae bellach wedi ail agor.
Dywedodd y Rhingyll Alun Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, a sydd heb siarad â ni eisoes i gysylltu."
Mae'r heddlu hefyd yn annog unrhyw un arall a oedd yn teithio yn yr ardal gyfagos allai fod â lluniau neu ddeunydd fideo i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r rhif 0009895.
