Newyddion S4C

Sky yn canslo dadl etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr

Sky News 18/07/2022
Y ras i Rif 10

Mae Sky News wedi canslo ei dadl ar gyfer etholiad arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol wedi i Rishi Sunak a Liz Truss ddewis peidio cymryd rhan yn y drafodaeth. 

Roedd y ddadl gyda Kay Burley wedi'i threfnu ar gyfer nos Fawrth, yn dilyn darlledu dwy ddadl ar Channel 4 ac ITV dros y penwythnos. 

Daw hyn wedi i aelodau seneddol Ceidwadol godi pryderon am effaith y dadleuon ar ddelwedd y blaid. 

Fe fydd nifer yr ymgeiswyr yn y ras i i ddewis arweinydd newydd y Ceidwadwyr a'r prif weinidog nesaf yn disgyn i bedwar nos Lun, wrth i ASau Ceidwadol bleidleisio unwaith eto.

Fe fydd y pleidleisio yn dechrau am 17:00 gyda disgwyl cyhoeddiad am y canlyniad am 20:00.

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.