Jennifer Lopez a Ben Affleck yn priodi

Mae Jennifer Lopez a Ben Affleck wedi priodi mewn gwasanaeth yn Las Vegas nos Sadwrn.
Fe gyhoeddodd y gantores y newyddion yn ei chylchlythyr ddydd Sul.
Mae'r briodas yn benllanw ar berthynas sydd yn mynd yn ôl dros ugain mlynedd. Fe ddaethant yn gariadon gyntaf yn y 2000au cynnar cyn ailgychwyn eu perthynas y llynedd.
Roedd Affleck yn briod â Jennifer Garner rhwng 2005 a 2018 ac mae gan y ddau dri o blant, ac mae Lopez yn rhannu efeilliaid gyda'i chyn-ŵr, Marc Anthony.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit