Newyddion S4C

Tri wedi'u saethu'n farw mewn marchnad fwyd yn Indiana

Greenwood Park Mall

Mae tri o bobl wedi'u saethu'n farw a dau wedi eu hanafu ym marchnad bwyd yn Indiana.

Roedd dyn arfog wedi saethu at bobl yng Nghanolfan Siopa Parc Greenwood ddydd Sul gan ladd tri person. Cafodd y dyn arfog ei saethu yn farw gan ddyn arall oedd gerllaw meddai'r heddlu.

Merch 12 oed oedd un o'r bobl gafodd eu hanafu.

Mae gan Indiana rhai o'r rheolau arfau mwyaf llac yn yr Unol Daleithiau. Mis yma roedd y dalaith wedi cael gwared ar y rheolau oedd yn golygu bod angen i bobl oedd yn cario arfau gael trwydded. 

Darllenwch fwy yma.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.