Menyw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Nhredegar Newydd
17/07/2022
Mae Heddlu Gwent wedi arestio menyw 31 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 57 oed yn Nhredegar Newydd yn Sir Gaerffili.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 00:00 fore dydd Sul i eiddo yn Nhref Eliot. Yn ôl yr heddlu nid oedd y dyn yn ymateb a bu farw yno.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol yn eu cefnogi.
Ychwanegodd yr heddlu nad ydyn nhw yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.