Geraint Thomas yn dal yn drydydd yn y Tour de France
Mae’r Geraint Thomas yn dal ymhlith y ceffylau blaen ar ôl cymal 15 o’r Tour de France ddydd Sul.
Mae’n dal yn y trydydd safle, 21 eiliad o hyd y tu ôl i Tadej Pogacar o Slofenia sydd yn yr ail safle yn gyffredinol.
Jonas Vingegaard o Ddenmarc sy’n cadw’i afael ar y crys melyn.
Jasper Philipsen o Wlad Belg o Awstralia oedd yn fuddugol ar y cymal 202.5km o hyd o Rodez i Carcassonne ddydd Sul.
Cafodd y Cymro Owain Doull anffawd gan syrthio i’r tarmac ar ôl methu ag osgoi potel ddŵr ar y llawr ond fe lwyddodd i gario ymlaen.
Bu'n rhaid iddo gael ychydig o driniaeth o'r car meddygol wrth iddo seiclo i lawr rhiw ar gyflymdra o 43 milltir yr awr.
Roedd hwn yn gymal hir a phoeth gyda’r timau yn gorfod paratoi y seiclwyr am y gwres uchel ar y cymal.
Roedd disgwyl i’r seiclwyr yfed tua 12 litr o ddŵr yr un yn ystod y daith gyda rhai yn gosod talpiau o iâ i lawr eu crysau i leddfu’r gwres.
Roedd hwn yn gymal pontio rhwng mynyddoedd yr Aplau a’r Pyrenees cyn diwrnod o orffwys ddydd Llun.
Bydd y ras yn parhau ddydd Mawrth ar gymal 178.5km o Carcassonne i Foix.
Llun: Twitter/Ineos Grenadiers