Newyddion S4C

Elusen canser yn poeni am effaith y tywydd eithafol

Elusen canser yn poeni am effaith y tywydd eithafol

NS4C 17/07/2022

Mae elusen canser yng Nghymru yn rhybuddio y gallai'r argyfwng costau byw olygu bod rhai rhieni'n methu fforddio prynu eli haul ar gyfer eu plant. 

Dywedodd Lowri Griffiths o elusen Tenovus gall y risg gynyddol o losgi gael effaith hir dymor ar iechyd pobl, a hynny "ar adeg pan mae cyfraddau canser y croen eisoes yn cynyddu."

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi cyngor i bobl wrthsefyll y tywydd poeth yn dilyn y Rhybudd Oren am wres eithafol sydd mewn grym ar gyfer dydd Sul a dydd Llun yng Nghymru.

Mae’r Rhybudd wedi ei ymestyn i gynnwys dydd Mawrth hefyd.

Mae’n bosib y caiff record newydd ei sefydlu am y tymheredd uchaf a gofnodwyd yng Nghymru.

Y record ar hyn o bryd yw 35.2C ym Mhenarlâg yng ngogledd ddwyrain Cymru yn Awst 1990.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gall y tymheredd godi i 31C yn Sychdyn yng ngogledd ddwyrain Cymru ddydd Sul.

Mae disgwyl i’r tymheredd godi ymhellach ddydd Llun.

Gyda thymereddau yn disgwyl i godi'n uwch na 30C, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi rhybuddion eu hunain ynglŷn â'r tywydd sydd i ddod. 

Pobl yn mwynhau'r tywydd braf ar draeth Ynys y Bari.

Gofal am iechyd

Mae ICC wedi rhybuddio bod yr amodau crasboeth yn cynyddu'r risg o gyflyrau iechyd yn ymwneud â gwres llethol.

Mae’r gwasanaethau brys a’r GIG wedi bod yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus yn y tywydd eithafol ac i gadw allan o’r haul gymaint ag sy’n bosib.

Mae cyngor hefyd i sicrhau nad yw anifeiliaid anwes yn cael eu cadw mewn ceir neu ystafelloedd haul oherwydd gall y tymheredd godi’n sylweddol yn gyflym yn y mannau hynny.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynghori pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol i wneud a bydd gwasanaethau ar hyd y rhwydwaith yn cael eu heffeithio gyda rheoli cyflymdra mewn mannau i osgoi’r risg o gledrau’n gordwymo.

Mae gan gartrefi gofal drefniadau er mwyn amddiffyn yr henoed yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

Dywedodd Paul Downey o gartref gofal Marbryn yng Nghaernarfon eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda Cyngor Gwynedd ar asesiad risg.

Dywedodd Paul mai un o'r ffyrdd hawsaf i leihau'r risg yma ydy "yfed digon o ddŵr" a cheisio "cadw oddi wrth te a coffi oherwydd bod heina yn diuretic a ma' nhw'n neud rywun yn dehydrated."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.