Tudur Owen yn drymio i’r Candelas yn y Sesiwn Fawr
Tudur Owen yn drymio i’r Candelas yn y Sesiwn Fawr
Fe gafodd cynulleidfa’r Sesiwn Fawr dipyn o syrpréis yn Nolgellau brynhawn Sadwrn wrth i un o gyflwynwyr teledu a radio mwyaf poblogaidd Cymru ymuno â’r grŵp Candelas ar brif lwyfan yr ŵyl mewn perfformiad arbennig.
Roedd wedi bod yn freuddwyd oes gan Tudur Owen i berfformio fel drymiwr mewn band o flaen cynulleidfa fyw, ac fe gafodd y freuddwyd honno ei gwireddu o flaen cannoedd o bobl yn Nolgellau.
Fe ddaeth Tudur ymlaen i ddrymio ar gyfer cân olaf y band - Anifail, ac fe gafodd ymateb gwresog iawn gan y dorf.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn dilyn y perfformiad, dywedodd Tudur: “Mi wnes i fwynhau hwna yn fawr iawn, dwi wedi cael gwireddu breuddwyd oes… doeddwn heb fod mor nervous â hynna ers i fi wneud stand-up am y tro cynta’, ond mi oedd wir yn brofiad i gael perfformio efo un o fandiau gorau Cymru.”
Roedd Tudur yn perfformio efo’r Candelas fel rhan o raglen arbennig fydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru yn ddiweddarach yn yr haf.