Rhybudd tywydd ar benwythnos prysur i wyliau yng Nghymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd tywydd am fellt a tharanau a glaw trwm i ddydd Sadwrn, ar benwythnos prysur i wyliau yng Nghymru.
Mae’r diweddariad yn golygu bod rhybudd melyn mewn grym mewn rhannau o Gymru ddydd Iau a Gwener, a Chymru gyfan ddydd Sadwrn.
Daw’r rhybuddion am dywydd garw ar benwythnos Tafwyl yng Nghaerdydd, gŵyl Gottwood ar Ynys Môn, a Sioe Aberystwyth yng Ngheredigion.
Fe fydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn yn ymestyn o hanner nos nes 18:00. Gallai 60-80mm o law syrthio mewn rhai mannau.
“Bydd ardaloedd o law trwm a rhai stormydd mellt a tharanau yn symud tua'r gogledd ar draws ardaloedd o Loegr a Chymru yn gynnar ddydd Sadwrn,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
Ar ôl i'r glaw symud i'r gogledd, mae'n debygol y daw cawodydd trwm a stormydd mellt a tharanau pellach yn ei sgil.
Dydd Iau
Bydd y rhybudd tywydd ddydd Iau rhwng hanner nos ac 19:00 ac yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
- Ynys Môn
Dydd Gwener
Bydd y rhybudd tywydd ddydd Gwener rhwng 18:00 a hanner nos ac yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen
- Wrecsam
Dydd Sadwrn
Bydd y rhybudd tywydd ddydd Sadwrn rhwng hanner nos a 18:00 ac yn effeithio ar Gymru gyfan:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Môn