Deg coedwig newydd yn ymuno â ‘Choedwig Genedlaethol Cymru’
Mae deg safle newydd wedi ymuno ag ymdrech i greu un ‘Coedwig Genedlaethol i Gymru’ a fydd yn 'ymestyn hyd a lled' y wlad.
Mae’r safloedd yn cynnwys Coed Parc y Moch, Gwynedd, Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, a Llys-y-frân yn Sir Benfro.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol i safleoedd sy’n ymuno â’r cynllun gyda’r nod o blannu a chynnal rhwydwaith o goedwigoedd ar draws Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Ein huchelgais yw cael mwy ohonyn nhw ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau.
"Byddwn yn annog safleoedd eraill i ymuno â'r Goedwig Genedlaethol er mwyn i ni allu ehangu'r rhwydwaith o goetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi'u dylunio a'u rheoli'n dda.
“Bydd yn gyfle i agor mwy o fannau awyr agored, sy'n dda i'n lles ac yn creu swyddi gwyrdd newydd."
‘Cynaliadwy’
Mae'r ychwanegiadau yn dod â chyfanswm rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru i 70 o safleoedd coetir sy'n cwmpasu mwy na 4,056 hectar ledled y wlad.
Mae'r deg safle newydd fel a ganlyn:
• Llys-y-frân, Sir Benfro
• Coed Parc y Moch, Gwynedd
• Penpont, Powys
• Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin
• Coedwig Castell Helygain, Sir y Fflint
• Cronfa Ddŵr Lliedi Isaf, Sir Gaerfyrddin
• Coed Uno, Sir Benfro
• Coetiroedd Pont-y-clun (Coed Ifor, Taith Gerdded Glan yr Afon a thir yn Hollies), Rhondda Cynon Taf
• Fferm Denmark, Ceredigion
• Coetiroedd Mynydd Sirhywi, Gwent
Dywedodd Vanessa Warrington, o Goedwig Castell Helygain ei bod yn “hynod falch” o ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
“Fel tirfeddiannwr, mae hwn wedi bod yn gyfle i mi wireddu'r weledigaeth ar gyfer ein coetir," meddai.
“Rydym ar ein ffordd i ddod yn goetir cynaliadwy, iach, bywiog gyda bioamrywiaeth gyfoethog, trwy reolaeth ymwybodol, addysg, rhaglenni lles a hyfforddiant.”