
'Sychder yn datblygu' mewn rhannau o orllewin Cymru
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod "sychder yn datblygu" mewn rhannau o'r gorllewin yn sgil tywydd sych diweddar.
Dywedodd y cwmni bod y statws ar gyfer ardal rhwydwaith dŵr canolbarth a de Ceredigion oherwydd gostyngiad yn lefelau dŵr ei chronfeydd.
Mae cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau'n ddiogel, meddai Dŵr Cymru, ond mae'r cyhoedd wedi cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Dywedodd Dŵr Cymru bod lefelau dŵr y cronfeydd yn yr ardal bellach tua 31% yn is na’r adeg hon y llynedd.
Mae hyn yn golygu bod sychder yn datblygu a’i bod yn bosibl y bydd angen cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr yn yr ardal.
Pa ardaloedd sydd wedi eu heffeithio?
Mae rhwydwaith dŵr canolbarth a de Ceredigion yn gwasanaethu 32,000 eiddo yn y sir, yn ogystal â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin.
Mae’r ardal yn cwmpasu ardal Llanon, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, i lawr i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.

Statws ‘Sychder yn Datblygu’ yw’r ail gam o bump y mae Dŵr Cymru wedi eu nodi yn eu Cynllun Sychder statudol ac nid yw’n cyfyngu ar y defnydd o ddŵr.
Ond os nad yw'r sefyllfa'n gwella, mae'n bosibl y bydd angen i’r cwmni symud i gam tri a chyhoeddi gwaharddiadau dros dro ar ddefnydd yn y dyfodol agos.
Dywedodd Marc Davies, cyfarwyddwr gwasanaethau dŵr Dŵr Cymru, ei bod hi'n "hanfodol" iddyn nhw "gynnal cyflenwadau".
"Gyda lefelau glawiad is nag erioed dros y misoedd diwethaf, mae lefelau’r dŵr yn ein cronfeydd yn is na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn," meddai.
"Yn dilyn cyfnod mor sych, oni bai ein bod ni’n gweld cyfnod estynedig o dywydd gwlyb yn yr ardal, gyda digon o law, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd a’n hafonydd."
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl beidio â defnyddio dŵr, dim ond gofyn iddyn nhw ddefnyddio’r dŵr sydd ei angen arnynt gan osgoi ei wastraffu."