Newyddion S4C

Tanau gwyllt yn lledu mewn rhannau o Ewrop

Sky News 17/07/2022
Tanau yn Ewrop

Mae miloedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn Ewrop oherwydd tanau gwyllt yn dilyn tywydd crasboeth.

Mae’r awdurdodau ym Mhortiwgal yn dweud fod o leiaf 238 o bobl wedi marw oherwydd y gwres dros yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw peilot yng ngogledd Portiwgal pan blymiodd ei awyren oedd yn cludo dŵr ger y ffin gyda Sbaen.

Mae tanau gwyllt yn lledaenu yn ardal y Gironde yn ne Ffrainc lle mae 14,000 wedi gorfod symud o’u tai.

Roedd adroddiadau o danau hefyd yng ngwledydd Croatia a Groeg.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.