Elfyn Evans yn ail yn Rali Estonia
16/07/2022
Mae Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Estonia ddydd Sadwrn a hynny ar ôl iddo ennill pedwar cymal yn olynol ddydd Gwener.
Roedd Evans mewn sefyllfa dda wrth adeiladu bwlch o 12.5 eiliad dros y gyrwyr eraill.
Ond wrth i law trwm achosi llanast ddydd Sadwrn fe gwympodd i’r ail safle, 29.1 eiliad tu ôl i Kalle Rovanperä o’r Ffindir sy’n arwain y bencampwriaeth.
Roedd Evans, sydd yn gyrru i Toyota, yn y chweched safle yn y bencampwriaeth cyn Rali Estonia.
Llun: Twitter/Elfyn Evans