Cymru'n methu creu hanes wrth golli i Dde Affrica yn Cape Town
Methodd Cymru â chreu hanes wrth golli i Dde Affrica yn Cape Town prynhawn dydd Sadwrn.
Roedd Cymru’n anelu i ennill cyfres brawf am y tro cyntaf yn Ne Affrica.
Colli wnaeth Cymru yn y gêm gyntaf o'r gyfres o 32-29 cyn taro nôl wythnos ddiwethaf o 13-12 diolch i drosiad funud olaf Gareth Anscombe.
Yn anffodus i Anscombe, bu’n rhai iddo dynnu nôl yn hwyr o’r gêm yn Cape Town gydag anaf i’w asen gyda Rhys Patchell yn cymryd ei le ar y fainc.
Daeth ergyd arall i Gymru wrth i’r wythwr Taulupe Faletau dynnu allan o’r garfan gyda Josh Navidi yn camu i’w le.
Fe groesodd asgellwr De Affrica Makazole Mapimpi y llinell gais ar ôl pum munud ond roedd ei droed dros yr ystlys cyn tirio.
Ond roedd gan Dde Affrica fantais ac fe giciodd y maswr Handre Pollard gic gosb i osod y tîm cartref ar y blaen.
Gyda De Affrica’n pwyso’n rheolaidd yn y cyfnod agoriadol, roedd Cymru’n cael eu cosbi’n gyson gyda’r Springboks yn mynd am sgrymiau yn hytrach nag anelu at y pyst.
Nid oedd syndod pan sgoriodd De Affrica eu cais cyntaf wrth i Pollard groesi yn dilyn sawl hyrddiad gan y blaenwyr tuag at y llinell.
Fe drosodd Pollard ei gais i roi blaenoriaeth o 10-0 i'w dîm ar ôl chwarter awr.
Yn erbyn llif y chwarae fe ymosododd Cymru i dir De Affrica am y tro cyntaf yn y gêm gan gadw’r bêl yn fyw trwy sawl cymal.
Lledwyd y bêl i’r asgellwr chwith Josh Adams ac er iddo gael ei daclo, fe lwyddodd i gael y bêl i ddwylo Tommy Reffell, oedd yn cefnogi fel pob blaenasgellwr da, i sgorio yn y gornel.
Methodd Biggar gyda’r trosiad ond roedd Cymru nôl yn y gêm ar ôl 18 munud.
Cafodd Cymru mwy o feddiant yn y munudau dilynol gyda Biggar yn ychwanegu cic gosb ar ôl 33 munud wedi i Dde Affrica gamsefyll.
Gyda Chymru’n ildio nawfed cic gosb o’r hanner, aeth De Affrica am lein gyda'r bachwr Bongi Mbonambi yn croesi am gais a droswyd gan Pollard i gynyddu mantais y Springboks i 17-8 ar yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner yn dda i Gymru gyda Biggar yn cicio gôl gosb ar ôl munud i leihau’r bwlch i chwe phwynt.
Grym blaenwyr De Affrica
Fe darodd De Affrica nôl bron yn syth pan groesodd y canolwr Lukhanyo Am y llinell gais ond roedd y bas iddo wedi mynd ymlaen felly dihangfa i Gymru.
Gyda De Affrica yn ildio sawl cic gosb y tro hwn, fe lwyddodd Biggar eto at y pyst i ddod â Chymru nol o fewn tri phwynt.
Fe brofodd grym blaenwyr De Affrica yn ormod unwaith eto i Gymru wrth i’r capten a’r blaenasgellwr Syia Kolisi groesi am gais yn agos at y pyst. Fe drosodd Pollard i wneud y sgôr yn 24-14 ar ôl chwarter awr o’r ail hanner.
Er i Gymru ddangos menter yn y 10 munud olaf, roedd y bwlch yn ormod iddyn nhw yn y pendraw.
Seliwyd buddugoliaeth haeddiannol i Dde Affrica gyda dwy gic gosb arall i Pollard yn y munudau olaf.
Y sgôr terfynol: De Affrica 30 – 14 Cymru.
Bydd uchafbwyntiau'r gêm i'w gweld ar S4C nos Sadwrm am 21:00.
Llun: Asiantaeth Huw Evans